Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 35:24-35 beibl.net 2015 (BNET)

24. Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw.

25. Roedd y gwragedd oedd â dawn nyddu yn dod â'r defnydd roedden nhw wedi ei wneud – edau las, porffor, neu goch, neu liain main drud.

26. Roedd gwragedd eraill wedi eu hysgogi i fynd ati i nyddu defnydd wedi ei wneud o flew gafr.

27. Dyma'r arweinwyr yn rhoi cerrig onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest.

28. Hefyd perlysiau ac olew olewydd ar gyfer y lampau, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus.

29. Felly, daeth pobl Israel ag offrymau gwirfoddol i'r ARGLWYDD – dynion a merched oedd yn awyddus i helpu i wneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud drwy Moses.

30. Dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel, “Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda.

31. Mae wedi ei lenwi gydag Ysbryd Duw, sy'n rhoi dawn, deall a gallu iddo, i greu pob math o waith cywrain,

32. a gwneud pethau hardd allan o aur, arian a phres.

33. I dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed ac i wneud pob math o waith artistig.

34. Mae Duw wedi rhoi'r ddawn iddo fe, ac i Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan, i ddysgu eu crefft i eraill.

35. Mae Duw wedi rhoi'r doniau i'r rhai hynny i weithio fel crefftwyr ac artistiaid, i frodio lliain main gydag edau las, porffor a coch, a gwneud gwaith gwehydd – pob un yn feistri yn eu crefft ac yn artistiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 35