Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 35:16-25 beibl.net 2015 (BNET)

16. Yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi, gyda'r gratin bres sydd arni, y polion, a'r offer sy'n mynd gyda hi i gyd.Y ddysgl fawr gyda'i stand.

17. Llenni'r iard, y polion a'r socedi, a'r sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard.

18. Pegiau a rhaffau'r Tabernacl a'r iard.

19. Hefyd gwisgoedd y rhai fydd yn gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi eu brodio'n hardd), a gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a'i feibion fyddai hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.’”

20. Yna dyma bobl Israel i gyd yn mynd i ffwrdd.

21. Ond daeth rhai, oedd wedi eu sbarduno, ac yn awyddus i gyfrannu, yn ôl a cyflwyno eu rhoddion i'r ARGLWYDD – rhoddion tuag at godi Pabell presenoldeb Duw, cynnal y gwasanaeth ynddi, a tuag at y gwisgoedd cysegredig.

22. Dyma pawb oedd yn awyddus i roi yn dod – dynion a merched. A dyma nhw'n cyfrannu tlysau aur o bob math – broetshis, clustdlysau, modrwyau a breichledau. Roedd pawb yn dod ac yn cyflwyno'r aur yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.

23. Eraill yn dod ag edau las, porffor, neu goch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, neu grwyn môr-fuchod.

24. Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw.

25. Roedd y gwragedd oedd â dawn nyddu yn dod â'r defnydd roedden nhw wedi ei wneud – edau las, porffor, neu goch, neu liain main drud.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 35