Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 34:24-35 beibl.net 2015 (BNET)

24. Dw i'n mynd i yrru allan bobloedd o dy flaen di a rhoi mwy eto o dir i ti. Ac os byddi di'n ymddangos o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw dair gwaith bob blwyddyn, fydd neb yn dod ac yn ceisio dwyn dy dir oddi arnat ti.

25. Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi ei aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A does dim o aberth Gŵyl y Pasg i fod wedi ei adael ar ôl y bore wedyn.

26. Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw.Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.”

27. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ysgrifenna hyn i gyd i lawr. Dyma amodau'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda ti a phobl Israel.”

28. Roedd Moses yno gyda Duw am bedwar deg diwrnod, ddydd a nos. Wnaeth e ddim bwyta nac yfed o gwbl. A dyma fe'n ysgrifennu amodau'r ymrwymiad ar y llechi – sef y Deg Gorchymyn.

29. Pan ddaeth Moses i lawr o ben Mynydd Sinai gyda dwy lechen y dystiolaeth yn ei law, doedd e ddim yn sylweddoli fod ei wyneb wedi bod yn disgleirio wrth i'r ARGLWYDD siarad gydag e.

30. Pan welodd Aaron a phobl Israel Moses yn dod, roedd ei wyneb yn dal i ddisgleirio, ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato.

31. Ond dyma Moses yn galw arnyn nhw, a dyma Aaron a'r arweinwyr eraill yn dod yn ôl i siarad gydag e.

32. Wedyn dyma'r bobl i gyd yn dod draw ato, a dyma Moses yn dweud wrthyn nhw beth oedd y gorchmynion roedd Duw wedi ei roi iddo ar Fynydd Sinai.

33. Pan oedd Moses wedi gorffen siarad â nhw, byddai'n rhoi gorchudd dros ei wyneb.

34. Ond pan fyddai'n mynd i mewn i siarad â'r ARGLWYDD byddai'n tynnu'r gorchudd i ffwrdd nes byddai'n dod allan eto. Wedyn byddai'n dweud wrth bobl Israel beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddo,

35. a byddai pobl Israel yn gweld wyneb Moses yn disgleirio. Yna byddai'n rhoi'r gorchudd yn ôl dros ei wyneb nes byddai'n mynd yn ôl i siarad â'r ARGLWYDD eto.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 34