Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 32:21-28 beibl.net 2015 (BNET)

21. A dyma Moses yn troi at Aaron a gofyn iddo, “Beth wnaeth y bobl yma i ti? Pam wyt ti wedi gwneud iddyn nhw bechu mor ofnadwy?”

22. A dyma Aaron yn ei ateb, “Paid bod yn ddig, meistr. Ti'n gwybod fel mae'r bobl yma'n tueddu i droi at y drwg.

23. Dyma nhw'n dweud wrtho i, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses yna wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’

24. Felly dyma fi'n dweud wrthyn nhw, ‘Os oes gan rywun aur, rhowch e i mi.’ A dyma nhw'n gwneud hynny. Wedyn pan deflais i'r cwbl i'r tân, dyma'r tarw ifanc yma'n dod allan.”

25. Roedd Moses yn gweld fod y bobl allan o reolaeth yn llwyr – roedd Aaron wedi gadael iddyn nhw redeg yn wyllt, a gallai'r stori fynd ar led ymhlith eu gelynion.

26. Felly dyma Moses yn sefyll wrth y fynedfa i'r gwersyll a galw ar y bobl, “Os ydych chi ar ochr yr ARGLWYDD, dewch yma ata i.” A dyma'r Lefiaid i gyd yn mynd ato.

27. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gwisgwch eich cleddyfau! Ewch drwy'r gwersyll, o un pen i'r llall, a lladd eich brodyr, eich ffrindiau a'ch cymdogion!’”

28. Dyma'r Lefiaid yn gwneud beth ddwedodd Moses, a cafodd tua tair mil o ddynion eu lladd y diwrnod hwnnw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 32