13. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cadw fy Sabothau i. Bydd gwneud hynny yn arwydd bob amser o'r berthynas sydd rhyngon ni, i chi ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
14. Felly rhaid i chi gadw'r Saboth, a'i ystyried yn sanctaidd. Os ydy rhywun yn ei halogi, y gosb ydy marwolaeth. Yn wir, os ydy rhywun yn gwneud unrhyw waith ar y Saboth, bydd y person hwnnw'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
15. Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth – diwrnod i chi orffwys. Mae'r ARGLWYDD yn ei ystyried yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, ac os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth.
16. Mae pobl Israel i gadw'r Saboth bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad mae'n rhaid ei gadw am byth.
17. Mae'n arwydd o'r berthynas sydd gen i gyda phobl Israel. Roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd a'r ddaear mewn chwe diwrnod. Wedyn dyma fe'n gorffwys ac ymlacio.’”
18. Pan oedd Duw wedi gorffen siarad â Moses ar Fynydd Sinai, dyma fe'n rhoi dwy lech y dystiolaeth iddo – dwy lechen garreg gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw.