1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2. “Dw i wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda.
3. Dw i wedi ei lenwi ag Ysbryd Duw, i roi dawn, deall a gallu iddo, a'i wneud yn feistr ym mhob crefft –
4. i wneud pethau hardd allan o aur, arian a phres;
5. i dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed a pob math o waith crefft arall.
6. A dw i am i Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, ei helpu. Dw i hefyd wedi rhoi doniau i'r crefftwyr gorau eraill, iddyn nhw wneud yr holl bethau dw i wedi eu disgrifio i ti:
7. Pabell Presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth, y caead sydd ar yr Arch, a'r holl bethau eraill sy'n y babell,