4. Gosod ddau gylch aur ar ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r allor.
5. Mae'r polion i gael eu gwneud o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur.
6. Yna gosod yr allor o flaen y llen mae Arch y dystiolaeth tu ôl iddo (y llen o flaen caead yr Arch sydd dros y dystiolaeth). Dyna lle bydda i'n dy gyfarfod di.
7. “Bob bore, pan fydd Aaron yn trin y lampau, rhaid iddo losgi arogldarth persawrus ar yr allor yma.
8. A'r un fath pan fydd e'n goleuo'r lampau ar ôl iddi ddechrau nosi. Mae hyn i ddigwydd yn rheolaidd ar hyd y cenedlaethau.
9. Rhaid peidio llosgi arogldarth gwahanol arni, na'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, na'r offrwm o rawn, a rhaid peidio tywallt offrwm o ddiod arni.
10. Ond un waith y flwyddyn bydd Aaron yn puro'r allor, iddi fod yn iawn i'w defnyddio, drwy roi peth o waed yr offrwm dros bechod ar y cyrn. Mae hyn i fod i ddigwydd bob blwyddyn ar hyd y cenedlaethau. Bydd yn cael ei chysegru'n llwyr i'r ARGLWYDD.”
11. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses
12. “Pan fyddi'n cynnal cyfrifiad o bobl Israel, mae pob dyn sy'n cael ei gyfri i dalu iawndal am ei fywyd. Wedyn fydd pla ddim yn eu taro nhw wrth i ti eu cyfrif nhw.
13. Maen nhw i gyd i dalu treth o hanner sicl (sef bron chwe gram o arian) pan maen nhw'n cael eu cyfrif. (Mesur safonol y cysegr sydd i gael ei ddefnyddio – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.) Mae'r arian yma i'w roi'n offrwm i'r ARGLWYDD.
14. Mae pob un sy'n ugain oed neu'n hŷn, i roi offrwm i'r ARGLWYDD.
15. Dydy'r cyfoethog ddim i roi mwy, a'r tlawd ddim i roi llai. Mae pob un i dalu'r hanner sicl yn iawndal am ei fywyd.
16. Rwyt i gasglu'r arian gan bobl Israel a'i roi tuag at gynnal Pabell Presenoldeb Duw. Bydd yn atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel, eu bod wedi talu iawndal am eu bywydau.”
17. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses