1. “Rwyt i wneud allor i losgi arogldarth. Gwna hi allan o goed acasia,
2. yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Mae'r cyrn arni i fod yn un darn gyda'r allor ei hun.
3. Yna gorchuddia hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod forder aur o'i chwmpas i'w haddurno.
4. Gosod ddau gylch aur ar ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r allor.