Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 3:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Ond dyma Moses yn dweud, “Ond os gwna i fynd at bobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich hynafiaid chi wedi fy anfon i atoch chi,’ byddan nhw'n gofyn i mi, ‘Beth ydy ei enw e?’ Beth ddylwn i ddweud wedyn wrthyn nhw?”

14. A dyma Duw yn ateb Moses, “FI YDY'R UN YDW I. Rhaid i ti ddweud hyn wrth bobl Israel, ‘FI YDY sydd wedi fy anfon i atoch chi.’”

15. A dyma fe'n dweud hefyd, “Rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, sydd wedi fy anfon i atoch chi. Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. Dyma fy enw i am byth, a'r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i'r llall.’

16. “Dos i alw arweinwyr Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ymddangos i mi – Duw Abraham, Isaac a Jacob. Mae'n dweud, “Dw i wedi bod yn cadw golwg arnoch chi. Dw i wedi gweld sut ydych chi'n cael eich trin yn yr Aifft.

17. A dw i'n addo eich rhyddhau chi o'r caledi yn yr Aifft, a'ch arwain chi i'r wlad ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!”’

18. “Bydd yr arweinwyr yn dy gredu di. Wedyn bydd rhaid i ti ac arweinwyr Israel fynd at frenin yr Aifft, a dweud wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi cyfarfod gyda ni. Felly, plîs gad i ni deithio i'r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw.’

19. “Dw i'n gwybod yn iawn na fydd brenin yr Aifft yn gadael i chi fynd, dim hyd yn oed dan bwysau.

20. Felly bydda i'n defnyddio fy nerth i daro'r Aifft gyda gwyrthiau rhyfeddol. Bydd e'n eich gyrru chi allan wedyn!

21. Bydd pobl yr Aifft yn rhoi anrhegion i bobl Israel, felly fyddwch chi ddim yn gadael yn waglaw.

22. Bydd gwraig yn gofyn i'w chymdoges a'r un sy'n lletya gyda hi am bethau arian ac aur, ac hefyd am ddillad. Bydd eich meibion a'ch merched yn eu gwisgo nhw. Byddwch yn cymryd y cwbl oddi ar bobl yr Aifft!”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 3