Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 3:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Moses yn gofalu am ddefaid a geifr ei dad-yng-nghyfraith, Jethro, offeiriad Midian. A dyma fe'n arwain y praidd i'r ochr draw i'r anialwch. Daeth at fynydd Duw, sef Mynydd Sinai.

2. Yno, dyma angel yr ARGLWYDD yn ymddangos iddo o ganol fflamau perth oedd ar dân. Wrth edrych, roedd yn gweld fod y berth yn fflamau tân, ond doedd hi ddim yn cael ei llosgi.

3. “Anhygoel!” meddyliodd. “Rhaid i mi fynd yn nes i weld beth sy'n digwydd – pam nad ydy'r berth yna wedi llosgi'n ulw.”

4. Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod yn mynd draw i edrych, dyma Duw yn galw arno o ganol y berth, “Moses! Moses!”“Dyma fi,” meddai Moses.

5. A dyma Duw yn dweud wrtho, “Paid dod dim nes. Tynn dy sandalau; ti'n sefyll ar dir cysegredig!”

6. Yna dyma fe'n dweud, “Fi ydy Duw dy dad; Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.” A dyma Moses yn cuddio ei wyneb, am fod ganddo ofn edrych ar Dduw.

7. Yna meddai'r ARGLWYDD wrtho, “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi eu clywed nhw'n gweiddi wrth i'w meistri fod yn gas atyn nhw. Dw i'n teimlo drostyn nhw.

8. Felly dw i wedi dod lawr i'w rhyddhau nhw o afael yr Eifftiaid. Dw i'n mynd i'w harwain nhw o wlad yr Aifft, a rhoi gwlad dda, eang iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo! Yr ardaloedd ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 3