Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:36-46 beibl.net 2015 (BNET)

36. Bob dydd rhaid i ti aberthu tarw ifanc yn offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw. Rwyt i buro'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i gael ei defnyddio, a'i chysegru drwy ei heneinio ag olew.

37. Am saith diwrnod rwyt i baratoi'r allor a'i chysegru i'w gwneud yn iawn i'w defnyddio. Wedyn bydd yr allor yn sanctaidd iawn, a bydd unrhyw beth sy'n ei chyffwrdd yn gysegredig.

38. “Dyma beth sydd i'w gyflwyno ar yr allor yn rheolaidd bob dydd: Dau oen blwydd oed –

39. un i'w gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi.

40. Mae'r oen cyntaf i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd, a gyda litr o win yn offrwm o ddiod.

41. Yna cyflwyno'r ail pan mae'n dechrau nosi, gyda'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod a'r bore – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

42. Bydd yr offrwm yma'n cael ei losgi'n rheolaidd, ar hyd y cenedlaethau, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Dyna ble fydda i'n dy gyfarfod di, ac yn siarad â ti.

43. Dyna ble fydda i'n cyfarfod pobl Israel. Bydd fy ysblander i yn ei wneud yn lle cysegredig.

44. “Felly bydd y Tabernacl a'r allor wedi eu cysegru, a bydd Aaron a'i feibion wedi eu cysegru i fod yn offeiriaid i mi.

45. Dw i'n mynd i aros gyda phobl Israel. Fi fydd eu Duw nhw.

46. Byddan nhw'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft, er mwyn i mi fyw gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29