Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:30-42 beibl.net 2015 (BNET)

30. Bydd yr offeiriad fydd yn ei olynu yn eu gwisgo nhw am saith diwrnod pan fydd yn mynd i Babell Presenoldeb Duw i wasanaethu yn y Lle Sanctaidd am y tro cyntaf.

31. “Rhaid i ti gymryd hwrdd y cysegru, a coginio'r cig mewn lle cysegredig.

32. Yna mae Aaron a'i feibion i fwyta cig yr hwrdd, gyda'r bara oedd yn y fasged, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.

33. Dim ond nhw sydd i gael bwyta'r cig a'r bara gafodd ei ddefnyddio i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw, pan oedden nhw'n cael eu hordeinio a'u cysegru i'r gwaith. Does neb arall yn cael eu bwyta, am eu bod wedi eu cysegru.

34. Os oes cig neu fara dros ben y bore wedyn, rhaid ei losgi. Dydy e ddim i gael ei fwyta am ei fod wedi ei gysegru.

35. “Dyna sydd i gael ei wneud i Aaron a'i feibion, yn union fel dw i wedi gorchymyn i ti. Mae'r seremoni ordeinio yn para am saith diwrnod.

36. Bob dydd rhaid i ti aberthu tarw ifanc yn offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw. Rwyt i buro'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i gael ei defnyddio, a'i chysegru drwy ei heneinio ag olew.

37. Am saith diwrnod rwyt i baratoi'r allor a'i chysegru i'w gwneud yn iawn i'w defnyddio. Wedyn bydd yr allor yn sanctaidd iawn, a bydd unrhyw beth sy'n ei chyffwrdd yn gysegredig.

38. “Dyma beth sydd i'w gyflwyno ar yr allor yn rheolaidd bob dydd: Dau oen blwydd oed –

39. un i'w gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi.

40. Mae'r oen cyntaf i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd, a gyda litr o win yn offrwm o ddiod.

41. Yna cyflwyno'r ail pan mae'n dechrau nosi, gyda'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod a'r bore – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

42. Bydd yr offrwm yma'n cael ei losgi'n rheolaidd, ar hyd y cenedlaethau, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Dyna ble fydda i'n dy gyfarfod di, ac yn siarad â ti.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29