2. Yna gyda'r blawd gwenith gorau, gwna fara heb furum ynddo, cacennau wedi eu cymysgu gydag olew, a bisgedi tenau wedi eu socian mewn olew – y cwbl heb furum ynddyn nhw.
3. Rho'r rhain i gyd mewn basged, a mynd â nhw gyda'r tarw ifanc a'r ddau hwrdd.
4. Yna dos ag Aaron a'i feibion at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Golcha nhw gyda dŵr.
5. Yna cymer y gwisgoedd ac arwisgo Aaron gyda'r crys, y fantell sy'n mynd gyda'r effod, yr effod ei hun, y darn dros y frest, a clymu'r effod gyda'r strap cywrain sydd wedi ei blethu.
6. Yna rho'r twrban ar ei ben, a rhwymo'r symbol ei fod wedi ei gysegru i waith Duw ar y twrban.
7. Yna ei eneinio trwy dywallt yr olew ar ei ben.
8. Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau nhw,
9. rhwyma sash am eu canol (Aaron a'i feibion), a gosod eu penwisg arnyn nhw i ddangos mai nhw sydd i wasanaethu fel offeiriaid bob amser. Dyma sut mae Aaron a'i feibion i gael eu hordeinio.
10. “Rwyt i gyflwyno'r tarw o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Yno mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail.
11. Yna rwyt i ladd y tarw o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.
12. Wedyn cymer beth o waed y tarw a'i roi ar gyrn yr allor gyda dy fys. Mae gweddill y gwaed i gael ei dywallt wrth droed yr allor.
13. Yna cymer y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a'u llosgi nhw ar yr allor.
14. Ond mae'r cig, y croen a'r coluddion i gael eu llosgi tu allan i'r gwersyll. Yr offrwm puro ydy e.