Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:13-30 beibl.net 2015 (BNET)

13. Yna cymer y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a'u llosgi nhw ar yr allor.

14. Ond mae'r cig, y croen a'r coluddion i gael eu llosgi tu allan i'r gwersyll. Yr offrwm puro ydy e.

15. “Yna rwyt i gymryd un hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail.

16. Wedyn lladd yr hwrdd, cymryd ei waed a'i sblasio o gwmpas yr allor.

17. Wedyn rhaid torri'r hwrdd yn ddarnau, golchi'r coluddion a'r coesau cyn eu gosod nhw ar y darnau a'r pen

18. ar yr allor, a llosgi'r cwbl. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

19. “Yna cymryd yr ail hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar yr anifail yma eto.

20. Lladd yr hwrdd, yna cymer beth o'r gwaed a'i roi ar waelod clust dde Aaron, a'r un fath ar ei feibion. A hefyd ar fawd eu llaw dde ac ar fawd y droed dde. Yna sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor.

21. Wedyn cymryd peth o'r gwaed sydd ar yr allor, a'r olew eneinio, a'i daenellu ar Aaron a'i gwisgoedd, ac ar feibion Aaron a'u gwisgoedd nhw. Wedyn bydd Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd wedi eu cysegru.

22. Yna cymer y brasder i gyd, y brasder ar gynffon yr hwrdd, y brasder o gwmpas ei berfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan uchaf y goes dde – hwrdd y cysegru ydy e.

23. Ac o'r fasged o fara heb furum ynddo sydd o flaen yr ARGLWYDD, cymer un dorth, un gacen wedi ei chymysgu gydag olew, ac un fisged denau wedi ei socian mewn olew.

24. Yna rho'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion i'w gyflwyno fel offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.

25. Wedyn rwyt i'w cymryd yn ôl ganddyn nhw, a llosgi'r cwbl ar yr allor. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e – mae'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

26. “Wedyn rwyt i gymryd brest hwrdd cysegru Aaron, a'i gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Chi sydd i gadw'r darn yna.

27. Mae'r darnau gafodd eu chwifio a'u codi fel siâr Aaron o hwrdd y cysegru i gael eu gosod o'r neilltu – sef y frest a darn uchaf y goes ôl dde.

28. Aaron a'i feibion fydd piau'r rhannau yma o offrymau pobl Israel. Dyna fydd y drefn bob amser. Nhw sydd i gael y darnau yma o'r offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.

29. “Mae gwisgoedd cysegredig Aaron i gael eu defnyddio pan fydd disgynyddion iddo yn cael eu heneinio a'u hordeinio ar ei ôl.

30. Bydd yr offeiriad fydd yn ei olynu yn eu gwisgo nhw am saith diwrnod pan fydd yn mynd i Babell Presenoldeb Duw i wasanaethu yn y Lle Sanctaidd am y tro cyntaf.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29