Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 28:29-43 beibl.net 2015 (BNET)

29. Felly pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r lle sanctaidd bydd yn cario enwau llwythau Israel ar ei galon. Byddan nhw ar y darn dros y frest, fel cerrig coffa bob amser i bobl Israel.

30. Yna mae'r Wrim a'r Thwmim i'w rhoi tu mewn i'r darn dros y frest sy'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Byddan nhw ar galon Aaron pan fydd e'n mynd i mewn at yr ARGLWYDD. Mae Aaron i gario'r modd o wneud penderfyniadau dros bobl Israel ar ei galon bob amser pan fydd e'n mynd o flaen yr ARGLWYDD.

31. “Mae'r fantell sy'n mynd gyda'r effod i fod yn las.

32. Mae lle i'r pen fynd trwyddo ar y top, gyda hem o'i gwmpas, wedi ei bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo.

33. Wedyn gosod pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi eu gwneud o edau las, porffor a coch. A gosod clychau aur rhyngddyn nhw –

34. y clychau a'r ffrwythau bob yn ail.

35. Mae Aaron i wisgo'r fantell yma pan fydd e'n gwasanaethu, a bydd sŵn y clychau i'w clywed wrth iddo fynd i mewn ac allan o'r Lle Sanctaidd o flaen yr ARGLWYDD, rhag iddo farw.

36. “Yna gwneud medaliwn o aur pur, a crafu arno y geiriau: ‘Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD’

37. Mae i gael ei glymu gydag edau las ar du blaen y twrban,

38. ar dalcen Aaron. Bydd Aaron yn cymryd y cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad sy'n cael ei wneud wrth gyflwyno'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel wedi eu neilltuo i Dduw. Rhaid iddo wisgo'r medaliwn ar ei dalcen bob amser fel bod offrymau'r bobl yn dderbyniol.

39. “Mae'r crys patrymog a'r twrban i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, gyda'r sash wedi ei frodio.

40. “Yna i feibion Aaron rhaid gwneud crysau, sashiau, a penwisgoedd. Gwisgoedd hardd fydd yn dangos rhywbeth o urddas y gwaith fyddan nhw'n ei wneud.

41. “Yna byddi'n arwisgo dy frawd Aaron a'i feibion, a'u heneinio, ordeinio a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi.

42. “Rhaid gwneud dillad isaf o liain iddyn nhw, i guddio eu cyrff noeth. Mae'r rhain i'w gwisgo o'r canol at y pen-glin.

43. Rhaid i Aaron a'i feibion wisgo'r rhain pan fyddan nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw, neu i weinyddu wrth yr allor yn y Lle Sanctaidd, rhag iddyn nhw bechu a marw. Dyma fydd y drefn bob amser, i Aaron a'i ddisgynyddion ar ei ôl.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 28