Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 27:8-21 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dylai'r allor gael ei gwneud gyda planciau pren, fel ei bod yn wag y tu mewn. Dylid ei gwneud yr union fel cafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.

9. “Yna rhaid gwneud iard y Tabernacl gyda llenni o'i chwmpas wedi eu gwneud o'r lliain main gorau. Ar yr ochr ddeheuol

10. bydd dau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni.

11. Yna'r un fath ar yr ochr ogleddol.

12. Ar y cefn, yn wynebu'r gorllewin, mae lled yr iard i fod yn ddau ddeg dau metr o lenni, a deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres.

13-15. Yna ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât.

16. Yna sgrîn y giât yn naw metr o lenni yn hongian ar bedwar postyn mewn pedair soced bres. Bydd y llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch.

17. Bydd y polion o gwmpas yr iard i gyd wedi eu cysylltu gyda ffyn arian a bachau arian arnyn nhw, ac wedi eu gosod mewn socedi pres.

18. Bydd yr iard yn bedwar deg pedwar metr o hyd ac yn ddau ddeg dau metr o led. Mae uchder y llenni i fod yn ddau pwynt dau metr, yn cael eu dal i fyny gan bolion mewn socedi pres.

19. Mae offer y Tabernacl i gyd (popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y defodau), a'r pegiau, i gael eu gwneud o bres.

20. “Hefyd, dywed wrth bobl Israel am ddod ag olew olewydd pur i ti, fel bod y lampau wedi eu goleuo'n gyson.

21. Ym mhabell presenoldeb Duw, tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth, bydd Aaron a'i feibion yn cadw'r lampau'n llosgi o flaen yr ARGLWYDD drwy'r nos. Dyna fydd y drefn bob amser i bobl Israel, ar hyd y cenedlaethau.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 27