Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 25:20-36 beibl.net 2015 (BNET)

20. Mae'r ceriwbiaid i fod yn wynebu ei gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch.

21. Mae'r caead i'w osod ar yr arch, a Llechi'r Dystiolaeth i'w gosod y tu mewn iddi.

22. Dyma ble bydda i'n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau geriwb sydd uwch ben caead yr Arch, bydda i'n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud.

23. “Rwyt i wneud bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder.

24. Mae'r bwrdd i gael ei orchuddio gyda haen o aur pur, a border aur i'w osod o'i gwmpas i'w addurno.

25. Ac mae croeslath 75 milimetr o drwch i fod o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath â'r border.

26. Yna gwneud pedair cylch aur, a'u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau

27. wrth ymyl y croeslath. Mae'r cylchoedd i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd.

28. Mae'r polion eu hunain i gael eu gwneud o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur.

29. Hefyd platiau, pedyll, jygiau a powlenni o aur pur, i dywallt yr offrymau o ddiod.

30. Mae'r bara cysegredig i gael ei osod o'm blaen i ar y bwrdd yma bob amser.

31. “Yna gwneud y menora (sef stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw.

32. Mae chwe cangen i ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr.

33. Mae tair cwpan siâp blodyn almon i fod ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a petalau.

34. Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau.

35. Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd.

36. Mae'r cwbl i'w wneud o un darn o aur pur wedi ei guro – gwaith morthwyl.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 25