2. “Dywed wrth bobl Israel am gasglu rhoddion i mi gan bawb sy'n awyddus i gyfrannu.
3. Dyma beth allan nhw ei gyfrannu: aur, arian, pres,
4. edau las, porffor, a coch, lliain main drud, blew gafr,
5. crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia,
6. olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus,
7. onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest.
8. Dw i eisiau iddyn nhw godi lle sbesial i mi gael byw yn eu canol nhw.
9. Dw i eisiau i'r Tabernacl, a popeth fydd yn mynd i mewn ynddo, gael eu gwneud yn union fel dw i'n dangos i ti.
10. “Maen nhw i wneud Arch, sef cist o goed acasia – 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder.
11. Yna ei gorchuddio gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.
12. Yna gwneud pedair cylch aur, a'i gosod nhw ar draed y gist, dwy bob ochr.
13. A dau bolyn o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur.
14. Mae'r polion i ffitio drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, ac i'w defnyddio i'w chario hi.
15. Mae'r polion yma i aros yn eu lle yn y cylchoedd bob amser – rhaid peidio eu tynnu nhw allan.
16. Wedyn mae Llechi'r Dystiolaeth dw i'n eu rhoi i ti, i'w gosod y tu mewn i'r Arch.
17. “Yna gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led.
18-19. Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun.
20. Mae'r ceriwbiaid i fod yn wynebu ei gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch.