Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 22:17-30 beibl.net 2015 (BNET)

17. Rhaid iddo dalu'r arian hyd yn oed os ydy'r tad yn gwrthod gadael iddo briodi'r ferch.

18. Dydy gwraig sy'n dewino ddim i gael byw.

19. Os ydy rhywun yn cael rhyw gydag anifail, y gosb ydy marwolaeth.

20. Os ydy rhywun yn aberthu i dduwiau ar wahân i'r ARGLWYDD, rhaid ei ddinistrio'n llwyr!

21. Paid cam-drin mewnfudwyr. Cofiwch mai mewnfudwyr oeddech chi eich hunain yn yr Aifft.

22. Paid cymryd mantais o wraig weddw neu blentyn amddifad.

23. Os gwnei di hynny, a hwythau'n gweiddi arna i am help, bydda i'n ymateb.

24. Bydda i wedi gwylltio'n lân. Byddwch chi'r dynion yn cael eich lladd mewn rhyfel. Bydd eich gwragedd chi'n cael eu gadael yn weddwon, a bydd eich plant yn amddifad.

25. Os wyt ti'n benthyg arian i un o'm pobl Israel sydd mewn angen, paid bod fel y benthycwyr sy'n codi llog arnyn nhw.

26. Os wyt ti'n cymryd mantell rhywun yn ernes am ei fod mewn dyled i ti, gwna'n siŵr dy fod yn ei rhoi yn ôl iddo cyn i'r haul fachlud,

27. gan mai dyna'r cwbl sydd ganddo i gadw'n gynnes yn y nos. Os bydd e'n gweiddi arna i am help, bydda i'n gwrando arno, achos dw i'n garedig.

28. Paid cymryd enw Duw yn ysgafn, na melltithio un o arweinyddion dy bobl.

29. Paid cadw'n ôl beth sydd i fod i gael ei offrymu i mi o'r cynhaeaf grawn a'r cafnau gwin ac olew.Rhaid i bob mab hynaf gael ei roi i mi.

30. A'r un fath gyda pob anifail gwryw sydd y cyntaf i gael ei eni – bustych, defaid a geifr – gallan nhw aros gyda'r fam am saith diwrnod, ond rhaid i chi eu rhoi nhw i mi ar yr wythfed diwrnod.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 22