Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 22:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Os ydy rhywun yn dwyn tarw neu ddafad, ac yna'n lladd yr anifail neu ei werthu, rhaid talu'n ôl bump o fuchod am y tarw, a pedair dafad am yr un ddafad.

2. Os ydy lleidr yn cael ei ddal yn torri i mewn i dŷ, ac mae'n cael ei daro ac yn marw, fydd y person wnaeth ei ladd ddim yn cael ei gyfri'n euog o dywallt gwaed.

3. Ond os ydy'r peth yn digwydd yng ngolau dydd, bydd yn euog.Os ydy lleidr yn cael ei ddal, rhaid iddo dalu'n llawn am beth gafodd ei ddwyn. Os nad ydy e'n gallu talu, bydd y lleidr yn cael ei werthu fel caethwas i dalu'r ddyled.

4. Os ydy'r anifail gafodd ei ddwyn yn cael ei ddarganfod yn dal yn fyw – p'run ai tarw, asyn neu ddafad – rhaid i'r lleidr dalu dwywaith ei werth yn iawndal.

5. Os ydy rhywun yn rhoi ei anifeiliaid i bori yn ei gae neu ei winllan, ac yn gadael iddyn nhw grwydro a pori ar dir rhywun arall, rhaid iddo dalu am y golled gyda'r cynnyrch gorau o'i gae a'i winllan ei hun.

6. Os oes tân yn mynd allan o reolaeth, ac yn lledu drwy'r gwrychoedd a llosgi cnydau sydd wedi eu casglu neu gnydau sy'n dal i dyfu yn y caeau, rhaid i'r person ddechreuodd y tân dalu am y difrod.

7. Os ydy person yn rhoi arian neu bethau gwerthfawr i rywun eu cadw'n saff, a'r pethau hynny'n cael eu dwyn, rhaid i'r lleidr dalu dwywaith cymaint yn ôl os ydy e'n cael ei ddal.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 22