Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 21:7-19 beibl.net 2015 (BNET)

7. Os ydy rhywun wedi gwerthu ei ferch i weithio fel caethforwyn, fydd hi ddim yn cael mynd yn rhydd ar ddiwedd y chwe blwyddyn fel y dynion.

8. Os nad ydy'r ferch yn plesio'r meistr wnaeth ei chymryd hi, mae'n gallu caniatáu i rywun ei phrynu hi'n ôl. Ond does ganddo ddim hawl i'w gwerthu hi i rywun o wlad arall, am ei fod wedi delio'n annheg gyda hi.

9. Os ydy e wedi dewis ei rhoi hi i'w fab, rhaid iddi hi gael yr un hawliau, a chael ei thrin fel petai'n ferch iddo.

10. Os ydy e'n cymryd gwraig arall, mae gan y wraig gyntaf hawl i dderbyn bwyd a dillad ganddo, ac i gael rhyw gydag e.

11. Os nad ydy e'n fodlon rhoi'r tri peth yna iddi, mae ganddi hawl i fynd yn rhydd, heb dalu dim.

12. Os ydy rhywun yn taro person arall a'i ladd, y gosb ydy marwolaeth.

13. Os digwyddodd y peth trwy ddamwain, heb unrhyw fwriad i ladd, dw i'n mynd i drefnu lle saff i'r lladdwr ddianc iddo.

14. Ond os oedd bwriad clir i ladd y person arall, cewch lusgo'r llofrudd i ffwrdd a'i ddienyddio, hyd yn oed os oedd e wedi dianc at fy allor i.

15. Os ydy rhywun yn taro ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth.

16. Os ydy rhywun yn herwgipio person arall, i'w werthu neu i'w ddal yn gaeth, y gosb ydy marwolaeth.

17. Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth.

18. Dyma sydd i ddigwydd os bydd dynion yn ymladd, ac un yn taro'r llall gyda charreg neu gyda'i ddwrn nes ei anafu a'i adael yn orweddog, ond heb ei ladd:

19. Os bydd yr un gafodd ei anafu yn gwella ac yn gallu cerdded eto gyda ffon, fydd dim rhaid cosbi'r dyn wnaeth ei daro. Ond bydd disgwyl iddo dalu iawndal am yr amser gwaith gollodd y llall, a thalu unrhyw gostau meddygol nes bydd wedi gwella.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 21