Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 21:21-34 beibl.net 2015 (BNET)

21. Ond os ydy'r gwas neu'r forwyn yn dal yn fyw ar ôl diwrnod neu ddau, fydd y meistr ddim yn cael ei gosbi. Bydd eisoes ar ei golled.

22. Os bydd dynion yn ymladd ac yn taro gwraig feichiog, a hithau'n colli'r plentyn, ond heb gael unrhyw niwed pellach, rhaid i'r dyn wnaeth ei tharo gael ei gosbi a thalu faint bynnag o iawndal mae gŵr y wraig yn ei hawlio a'r llys yn ei ganiatáu.

23. Ond os ydy'r wraig ei hun yn cael niwed difrifol, rhaid i'r gosb gyfateb: Y ddedfryd fydd, bywyd am fywyd,

24. llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25. llosg am losg, anaf am anaf, clais am glais.

26. Os ydy rhywun yn taro ei gaethwas neu ei forwyn yn ei lygad, a'i ddallu, rhaid gadael iddo fe neu hi fynd yn rhydd, fel iawndal am golli ei lygad.

27. Os ydy e'n taro dant ei gaethwas neu ei forwyn allan, mae'r gwas neu'r forwyn i gael mynd yn rhydd, fel iawndal am y dant.

28. Os ydy dyn neu wraig yn marw am fod tarw wedi ei gornio, rhaid lladd yr anifail drwy daflu cerrig ato, a dydy'r cig ddim i gael ei fwyta. Fydd y perchennog ddim yn cael ei gosbi.

29. Ond os oedd y tarw wedi cornio rhywun o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid i'r tarw gael ei ladd a rhaid i'r perchennog farw hefyd;

30. neu mae teulu'r un gafodd ei ladd yn gallu hawlio swm o arian yn iawndal gan berchennog y tarw.

31. Mae'r un peth yn wir os ydy'r tarw yn cornio plentyn.

32. Os ydy'r tarw yn cornio caethwas neu forwyn, mae'r perchennog i dalu tri deg darn o arian, ac mae'r tarw i gael ei ladd drwy daflu cerrig ato.

33. Os ydy rhywun yn cloddio pydew a'i adael ar agor, a tarw neu asyn rhywun yn syrthio iddo a marw,

34. rhaid i'r sawl sydd biau'r pydew dalu am yr anifail, ond bydd yn cael cadw'r corff.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 21