Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 20:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma Duw yn dweud fel yma:

2. “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,lle roeddech chi'n gaethweision.

3. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.

4. Paid cerfio eilun i'w addoli –dim byd sy'n edrych fel unrhywaderyn, anifail na physgodyn.

5. Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw.Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i,ac mae'r canlyniadau yn gadael eu hôl ar y plantam dair i bedair cenhedlaeth.

6. Ond dw i'n dangos cariad di-droi-nôlam fil o genedlaethauat y rhai sy'n fy ngharu iac yn gwneud beth dw i'n ddweud.

7. Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw.Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enwddianc rhag cael ei gosbi.

8. Cofia gadw'r dydd Saboth yn sbesial.Mae'n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill.

9. Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall,a gwneud popeth sydd angen ei wneud.

10. Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD.Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –ti na dy feibion a dy ferched,dy weision na dy forynion chwaith;dim hyd yn oed dy anifeiliaidnag unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.

11. Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd,y ddaear, y môr a popeth sydd ynddyn nhw;wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod.Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth,a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi ei gysegru.

12. Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.

13. Paid llofruddio.

14. Paid godinebu.

15. Paid dwyn.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 20