Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 19:17-25 beibl.net 2015 (BNET)

17. Dyma Moses yn arwain y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod Duw, a dyma nhw'n sefyll wrth droed y mynydd.

18. Roedd mwg yn gorchuddio Mynydd Sinai, am fod yr ARGLWYDD wedi dod i lawr arno mewn tân. Roedd y mwg yn codi ohono fel mwg o ffwrnais fawr, ac roedd y mynydd yn crynu trwyddo.

19. Roedd sŵn y corn hwrdd yn uwch ac yn uwch drwy'r adeg. Roedd Moses yn siarad, a llais Duw yn ei ateb yn glir.

20. Daeth yr ARGLWYDD i lawr ar gopa mynydd Sinai. Galwodd ar Moses i fynd i fyny ato, a dyma Moses yn gwneud hynny.

21. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i lawr a rhybuddio'r bobl i beidio croesi'r ffin i edrych ar yr ARGLWYDD, neu bydd lot fawr ohonyn nhw'n marw.

22. Rhaid i'r offeiriaid, sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn rheolaidd, gysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro nhw'n sydyn.”

23. Atebodd Moses, “Dydy'r bobl ddim yn gallu dringo Mynydd Sinai, am dy fod ti dy hun wedi'n rhybuddio ni, ‘Marciwch ffin o gwmpas y mynydd, i'w gadw ar wahân.’”

24. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos di i lawr, a tyrd yn ôl gydag Aaron. Ond paid gadael i'r offeiriaid na'r bobl groesi'r ffin a dod at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro nhw'n sydyn.”

25. Felly dyma Moses yn mynd i lawr a dweud wrth y bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 19