Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 17:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. Dyma'r ARGLWYDD yn ateb Moses, “Dos allan o flaen y bobl, gyda'r ffon wnest ti daro'r Afon Nil gyda hi. A dos â rhai o arweinwyr Israel gyda ti.

6. Bydda i'n disgwyl amdanat ti ar y graig ar Fynydd Sinai. Dw i eisiau i ti daro'r graig, a bydd dŵr yn llifo allan ohoni, i'r bobl gael yfed.” A dyma Moses yn gwneud hynny o flaen llygaid arweinwyr Israel.

7. Dyma fe'n enwi'r lle yn Massa (“Lle'r profi”) a Meriba (“Lle'r ffraeo”), o achos yr holl ffraeo, a'r ffordd wnaeth pobl Israel roi'r ARGLWYDD ar brawf yno drwy ofyn, “Ydy'r ARGLWYDD gyda ni neu ddim?”

8. Tra roedden nhw yn Reffidim, dyma'r Amaleciaid yn ymosod ar bobl Israel.

9. A dyma Moses yn dweud wrth Josua, “Dewis rai o'n dynion ni i fynd allan i ymladd yn eu herbyn nhw. Yfory bydda i'n mynd i sefyll ar ben y bryn gyda ffon Duw yn fy llaw.”

10. Felly dyma Josua yn mynd allan i ymladd yn erbyn yr Amaleciaid fel roedd Moses wedi dweud wrtho. A dyma Moses yn mynd i sefyll ar ben y bryn gydag Aaron a Hur.

11. Tra roedd Moses yn dal ei freichiau yn yr awyr, roedd Israel yn ennill y frwydr, ond os oedd yn rhoi ei freichiau i lawr, roedd yr Amaleciaid yn ennill.

12. Pan oedd Moses yn rhy flinedig i ddal ei freichiau i fyny, dyma Aaron a Hur yn cymryd carreg iddo eistedd arni. A dyma nhw'n sefyll un bob ochr iddo, ac yn dal ei freichiau i fyny drwy'r dydd nes oedd yr haul wedi machlud.

13. Felly dyma Josua a'i filwyr yn ennill y frwydr a lladd yr Amaleciaid.

14. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i eisiau i ti gadw cofnod o hyn yn y llyfr, a gwneud yn siŵr fod Josua'n gwybod amdano. Dw i'n mynd i gael gwared â'r Amaleciaid yn llwyr – fydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw!”

15. Dyma Moses yn codi allor yno a'i galw yn Iafe-Nissi (sef “yr ARGLWYDD ydy fy fflag”).

16. Dwedodd, “Am iddyn nhw godi dwrn yn erbyn gorsedd yr ARGLWYDD, bydd yr ARGLWYDD yn ymladd yn erbyn yr Amaleciaid bob amser.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 17