Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 17:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma bobl Israel i gyd yn gadael Anialwch Sin ac yn teithio yn eu blaenau bob yn dipyn, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma nhw'n gwersylla yn Reffidim, ond doedd dim dŵr iddyn nhw ei yfed yno.

2. A dyma'r bobl yn dechrau dadlau gyda Moses, a dweud “Rhowch ddŵr i ni i'w yfed!” A dyma Moses yn ateb, “Pam ydych chi'n swnian? Pam ydych chi'n profi'r ARGLWYDD?”

3. Ond roedd y fath syched ar y bobl dyma nhw'n dechrau troi yn erbyn Moses eto, “Pam yn y byd wnest ti ddod â ni allan o'r Aifft? Dŷn ni i gyd yn mynd i farw o syched – ni a'n plant a'n hanifeiliaid!”

4. Dyma Moses yn gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD, “Beth dw i'n mynd i'w wneud? Maen nhw'n ar fin fy lladd i!”

5. Dyma'r ARGLWYDD yn ateb Moses, “Dos allan o flaen y bobl, gyda'r ffon wnest ti daro'r Afon Nil gyda hi. A dos â rhai o arweinwyr Israel gyda ti.

6. Bydda i'n disgwyl amdanat ti ar y graig ar Fynydd Sinai. Dw i eisiau i ti daro'r graig, a bydd dŵr yn llifo allan ohoni, i'r bobl gael yfed.” A dyma Moses yn gwneud hynny o flaen llygaid arweinwyr Israel.

7. Dyma fe'n enwi'r lle yn Massa (“Lle'r profi”) a Meriba (“Lle'r ffraeo”), o achos yr holl ffraeo, a'r ffordd wnaeth pobl Israel roi'r ARGLWYDD ar brawf yno drwy ofyn, “Ydy'r ARGLWYDD gyda ni neu ddim?”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 17