9. Yna dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Galw'r dyrfa o bobl Israel i gyd at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, ‘Dewch yma i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Mae e wedi eich clywed chi'n ymosod arno.’”
10. Tra roedd Aaron yn annerch pobl Israel i gyd, dyma nhw'n edrych i gyfeiriad yr anialwch a gweld ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio o'r golofn niwl.
11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
12. “Dw i wedi clywed fel mae pobl Israel yn ymosod arna i. Dywed wrthyn nhw, ‘Byddwch yn cael cig i'w fwyta gyda'r nos, ac yn y bore byddwch yn cael llond eich bol o fara. Byddwch yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’”
13. Gyda'r nos dyma soflieir yn dod ac yn glanio yn y gwersyll – roedden nhw dros bobman! Yna yn y bore roedd haenen o wlith o gwmpas y gwersyll.
14. Pan oedd y gwlith wedi codi roedd rhyw stwff tebyg i haen denau o farrug yn gorchuddio'r anialwch.
15. Pan welodd pobl Israel e, dyma nhw'n gofyn i'w gilydd, “Beth ydy e?” Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd e. A dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Dyma'r bara mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i chi i'w fwyta.
16. A dyma beth mae'r ARGLWYDD wedi ei orchymyn: ‘Mae pawb i gasglu'r hyn sydd ei angen ar eu teulu nhw – tua dau chwart y person. Dylech gasglu digon i bawb sy'n aros yn eich pabell.’”
17. Felly dyma bobl Israel yn mynd allan i'w gasglu – rhai ohonyn nhw yn casglu mwy na'i gilydd.
18. Ond wrth iddyn nhw fesur faint oedd pawb wedi ei gasglu, doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin. Roedd gan bawb faint oedd ei angen arnyn nhw.
19. Yna dyma Moses yn dweud, “Peidiwch cadw dim ohono dros nos.”