Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 16:6-15 beibl.net 2015 (BNET)

6. Felly dyma Moses ac Aaron yn dweud wrth bobl Israel, “Erbyn gyda'r nos heno, byddwch chi'n gwybod mai'r ARGLWYDD sydd wedi dod â chi allan o wlad yr Aifft.

7. A bore yfory byddwch chi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD. Mae e wedi eich clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Fe ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni.”

8. Ac meddai Moses, “Byddwch chi'n deall yn iawn pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi cig i chi ei fwyta gyda'r nos, a digonedd o fara yn y bore. Mae'r ARGLWYDD wedi eich clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Yr ARGLWYDD ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni!”

9. Yna dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Galw'r dyrfa o bobl Israel i gyd at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, ‘Dewch yma i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Mae e wedi eich clywed chi'n ymosod arno.’”

10. Tra roedd Aaron yn annerch pobl Israel i gyd, dyma nhw'n edrych i gyfeiriad yr anialwch a gweld ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio o'r golofn niwl.

11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

12. “Dw i wedi clywed fel mae pobl Israel yn ymosod arna i. Dywed wrthyn nhw, ‘Byddwch yn cael cig i'w fwyta gyda'r nos, ac yn y bore byddwch yn cael llond eich bol o fara. Byddwch yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’”

13. Gyda'r nos dyma soflieir yn dod ac yn glanio yn y gwersyll – roedden nhw dros bobman! Yna yn y bore roedd haenen o wlith o gwmpas y gwersyll.

14. Pan oedd y gwlith wedi codi roedd rhyw stwff tebyg i haen denau o farrug yn gorchuddio'r anialwch.

15. Pan welodd pobl Israel e, dyma nhw'n gofyn i'w gilydd, “Beth ydy e?” Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd e. A dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Dyma'r bara mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i chi i'w fwyta.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 16