Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 15:4-21 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mae wedi taflu cerbydau y Pharoa'i fyddin i gyd i'r môr!Cafodd eu swyddogion goraueu boddi yn y Môr Coch.

5. Daeth y dŵr dwfn drostyn nhw,a dyma nhw'n suddo i'r gwaelod fel carreg.

6. Mae dy law gref yn rhyfeddol, ARGLWYDD;dy law gref di wnaeth ddryllio'r gelyn.

7. Am dy fod mor aruthrol fawr,rwyt ti'n bwrw i lawr y rhai sy'n codi yn dy erbyn –Ti'n dangos dy fod yn ddig,ac maen nhw'n cael eu difa fel bonion gwellt.

8. Wrth i ti chwythu dyma'r dŵr yn codi'n bentwr,y llif yn sefyll fel argae,a'r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr.

9. Dyma'r gelyn yn dweud,‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw,a rhannu'r ysbail!Dw i'n mynd i gael amser da!Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro –dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’

10. Ond dyma ti'n chwythu,a dyma'r môr yn llifo drostyn nhw!Dyma nhw'n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt!

11. Pa un o'r duwiau sy'n debyg i ti, ARGLWYDD?Does neb tebyg i ti –mor wych, ac mor sanctaidd,yn haeddu dy barchu a dy foli;ti'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol!

12. Dyma ti'n codi dy law grefa dyma'r ddaear yn llyncu'r gelyn!

13. Yn dy gariad byddi'n arwainy bobl rwyt wedi eu rhyddhau;byddi'n eu tywys yn dy nerthi'r lle cysegredig lle rwyt yn byw.

14. Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu –bydd pobl Philistia yn poeni,

15. ac arweinwyr Edom wedi brawychu.Bydd dynion cryf Moab yn crynu,a pobl Canaan yn poeni.

16. Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw –mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fudfel carreg.Fyddan nhw'n gwneud dim nes bydd dy boblwedi pasio heibio, ARGLWYDD;y bobl wnest ti eu prynu wedi pasio heibio.

17. Ond byddi'n mynd â nhw i mewnac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun –ble rwyt ti wedi dewis byw, ARGLWYDD;y cysegr rwyt ti wedi ei sefydlu.

18. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu am byth bythoedd!

19. Pan aeth ceffylau y Pharo, a'i gerbydau a'i filwyr i'r môr,dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i ddŵr y môr lifo'n ôl drostyn nhw.Ond roedd pobl Israel wedi cerdded ar dir sych drwy ganol y môr.”

20. Yna dyma Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, yn gafael mewn drwm llaw, a dyma'r merched i gyd yn codi drymiau a mynd ar ei hôl gan ddawnsio.

21. A dyma Miriam yn canu'r gytgan:“Canwch i'r ARGLWYDDi ddathlu ei fuddugoliaeth!Mae e wedi taflu'r ceffylaua'u marchogion i'r môr!”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 15