Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 14:7-19 beibl.net 2015 (BNET)

7. Aeth â chwech chant o'i gerbydau gorau, a'r cerbydau eraill i gyd, gyda cadfridog yn bob un.

8. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud y Pharo, brenin yr Aifft, yn ystyfnig, a dyma fe'n mynd ar ôl pobl Israel. Ond roedd pobl Israel yn mynd yn eu blaenau yn hyderus.

9. Dyma'r Eifftiaid yn mynd ar eu holau gyda'i ceffylau a'u cerbydau rhyfel a'u milwyr i gyd, a dod o hyd iddyn nhw yn gwersylla yn Pi-hachiroth, ar lan y môr, gyferbyn a Baal-tseffon.

10. Wrth i'r Pharo a'i fyddin agosáu, dyma bobl Israel yn eu gweld nhw'n dod tuag atyn nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD,

11. a dweud wrth Moses, “Wyt ti wedi dod â ni allan i'r anialwch i farw am fod dim lle i'n claddu ni yn yr Aifft? Beth oedd ar dy ben di yn dod â ni allan o'r Aifft?

12. Dyma'n union ddwedon ni pan oedden ni yn yr Aifft, ‘Gad lonydd i ni ddal ati i weithio i'r Eifftiaid. Mae'n well gwneud hynny na mynd i farw yn yr anialwch!’”

13. Ond dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Peidiwch bod ag ofn! Arhoswch chi, a cewch weld sut bydd yr ARGLWYDD yn eich achub chi. Fyddwch chi ddim yn gweld yr Eifftiaid acw byth eto.

14. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ymladd drosoch chi. Does rhaid i chi wneud dim!”

15. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pam wyt ti'n galw arna i? Dywed wrth bobl Israel am fynd yn eu blaenau.

16. Cymer di dy ffon, a'i hestyn tuag at y môr. Bydd y môr yn hollti, a bydd pobl Israel yn gallu mynd drwy ei ganol ar dir sych!

17. Bydda i'n gwneud yr Eifftiaid mor ystyfnig, byddan nhw'n ceisio mynd ar eu holau drwy'r môr. Ond bydda i'n cael fy anrhydeddu o achos beth fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin gyda'i holl gerbydau a'i farchogion.

18. A bydd yr Eifftiaid yn dod i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD, o achos beth fydd yn digwydd iddyn nhw.”

19. Dyma angel Duw, oedd wedi bod yn arwain pobl Israel, yn symud tu ôl iddyn nhw. A dyma'r golofn o niwl yn symud o'r tu blaen i sefyll tu ôl iddyn nhw,

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 14