Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 12:27-38 beibl.net 2015 (BNET)

27. dwedwch wrthyn nhw, ‘Aberth y Pasg i'r ARGLWYDD ydy e, i gofio sut wnaeth e basio heibio tai pobl Israel ac achub ein teuluoedd pan wnaeth e daro gwlad yr Aifft.’”A dyma'r bobl oedd yn gwrando ar Moses yn plygu i lawr yn isel i addoli.

28. Wedyn dyma nhw'n mynd i ffwrdd a gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses ac Aaron.

29. Yna digwyddodd y peth! Ganol nos y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn taro meibion hynaf yr Eifftiaid, o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r carcharor yn ei gell, a hyd yn oed pob anifail oedd y cyntaf i gael ei eni.

30. A dyma'r Pharo yn deffro ganol nos, a'i swyddogion a pobl yr Aifft i gyd yr un fath. Roedd wylofain drwy'r wlad i gyd, am fod rhywun o bob teulu wedi marw.

31. A dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron yng nghanol y nos, a dweud wrthyn nhw, “Ewch o ma! I ffwrdd â chi! Gadewch lonydd i'm pobl! – chi a pobl Israel! Ewch i addoli'r ARGLWYDD fel roeddech chi eisiau.

32. Ewch â'ch anifeiliaid i gyd fel roeddech chi eisiau. I ffwrdd â chi! Ond cofiwch ofyn am fendith arna i.”

33. Roedd yr Eifftiaid yn benderfynol bellach fod rhaid i bobl Israel adael y wlad, a hynny ar frys. Roedden nhw'n meddwl, “Os arhosan nhw, byddwn ni i gyd wedi marw!”

34. Dyma bobl Israel yn cymryd y toes oedd heb furum ynddo yn eu powlenni cymysgu, eu lapio mewn dillad, a'u cario ar eu hysgwyddau.

35. Ac roedden nhw wedi gwneud beth ddwedodd Moses wrthyn nhw hefyd – roedden nhw wedi gofyn i'r Eifftiaid am bethau o aur ac arian, ac am ddillad.

36. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r Eifftiaid roi anrhegion i bobl Israel. Roedden nhw'n cael beth bynnag oedden nhw'n gofyn amdano. Dyma nhw'n cymryd popeth oddi ar bobl yr Aifft!

37. Felly dyma bobl Israel yn teithio o Rameses i Swccoth. Roedd tua 600,000 o ddynion yn cerdded ar droed, heb sôn am y gwragedd a'r plant.

38. Roedd tyrfa gymysg o bobl wedi mynd gyda nhw, a lot fawr iawn o anifeiliaid – defaid a geifr a gwartheg.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 12