Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 10:8-15 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dyma nhw'n dod â Moses ac Aaron yn ôl at y Pharo. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD eich Duw. Ond pwy yn union fydd yn mynd?”

9. “Bydd pawb yn mynd,” meddai Moses, “hen ac ifanc, ein plant a'n hanifeiliaid. Dŷn ni'n mynd i gynnal gŵyl i'r ARGLWYDD.”

10. “Duw a'ch helpo os ydych chi'n meddwl y gwna i adael i'ch plant fynd gyda chi! Gwyliwch chi! Byddwch chi mewn trwbwl wedyn!

11. Na! Dim ond y dynion sydd i gael mynd i addoli'r ARGLWYDD. Dyna dych chi eisiau ynte?” A dyma fe'n gyrru'r ddau allan o'i olwg.

12. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law dros wlad yr Aifft i wneud i'r locustiaid ddod. Byddan nhw dros bobman, ac yn difetha popeth sy'n dal i dyfu ar ôl y cenllysg.”

13. Felly dyma Moses yn estyn ei ffon dros wlad yr Aifft. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i wynt o'r dwyrain chwythu drwy'r dydd a'r nos. Erbyn iddi wawrio y bore wedyn roedd y gwynt wedi dod â'r locustiaid i'r wlad.

14. Dyma nhw'n mynd drwy'r wlad i gyd, o un pen i'r llall. Fuodd yna erioed bla tebyg o locustiaid, a fydd yna ddim un tebyg byth eto.

15. Roedden nhw dros bobman! Roedd y ddaear yn ddu gan locustiaid, a dyma nhw'n difetha pob planhigyn a phob ffrwyth ar bob coeden oedd yn dal yna wedi'r cenllysg. Doedd yna ddim planhigyn na deilen werdd ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd!

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 10