Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 1:6-22 beibl.net 2015 (BNET)

6. Yna dyma Joseff a'i frodyr a'r genhedlaeth yna i gyd yn marw.

7. Ond roedd eu disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhw'n cael eu gweld fel bygythiad. Roedden nhw ym mhobman – yn llenwi'r wlad!

8. Aeth amser hir heibio, a daeth brenin newydd i deyrnasu yn yr Aifft, un oedd yn gwybod dim byd am Joseff.

9. A dyma fe'n dweud wrth ei bobl, “Gwrandwch. Mae yna ormod o Israeliaid yn y wlad yma!

10. Rhaid i ni feddwl beth i'w wneud. Os bydd y niferoedd yn dal i dyfu, a rhyfel yn torri allan, byddan nhw'n helpu'n gelynion i ymladd yn ein herbyn ni. Gallen nhw hyd yn oed ddianc o'r wlad.”

11. Felly dyma'r Eifftiaid yn cam-drin pobl Israel, a'u gorfodi i weithio am ddim iddyn nhw, ac yn gosod meistri gwaith i gadw trefn arnyn nhw. A dyma nhw'n adeiladu Pithom a Rameses yn ganolfannau storfeydd i'r Pharo.

12. Ond er bod yr Eifftiaid yn eu gweithio nhw mor galed, roedd eu niferoedd yn dal i gynyddu a mynd ar wasgar. Felly dechreuodd yr Eifftiaid eu hofni a'u casáu nhw go iawn,

13. a'u cam-drin nhw fwy fyth.

14. Roedd bywyd yn chwerw go iawn iddyn nhw, wrth i'r Eifftiaid wneud iddyn nhw weithio mor galed. Roedden nhw'n gwneud brics a chymysgu morter ac yn slafio oriau hir yn y caeau hefyd.

15. Felly dyma frenin yr Aifft yn siarad â bydwragedd yr Hebreaid, Shiffra a Pwa, a dweud wrthyn nhw,

16. “Pan fyddwch chi'n gofalu am wragedd Hebreig wrth iddyn nhw eni plant, os mai bachgen fydd yn cael ei eni, dw i eisiau i chi ei ladd e'n syth; ond cewch adael i'r merched fyw.”

17. Ond am fod y bydwragedd yn parchu Duw, wnaethon nhw ddim beth roedd brenin yr Aifft wedi ei orchymyn iddyn nhw. Dyma nhw'n cadw'r bechgyn yn fyw.

18. A dyma frenin yr Aifft yn eu galw nhw eto, a gofyn “Beth dych chi'n wneud? Pam dych chi'n gadael i'r bechgyn fyw?”

19. A dyma'r bydwragedd yn ateb, “Dydy'r gwragedd Hebreig ddim yr un fath â gwragedd yr Aifft – maen nhw'n gryfion, ac mae'r plant yn cael eu geni cyn i ni gyrraedd yno!”

20. Felly buodd Duw'n garedig at y bydwragedd. Roedd niferoedd pobl Israel yn dal i dyfu; roedden nhw'n mynd yn gryfach ac yn gryfach.

21. Am fod y bydwragedd wedi parchu Duw, rhoddodd Duw deuluoedd iddyn nhw hefyd.

22. Yna dyma'r Pharo yn rhoi gorchymyn i'w bobl: “Mae pob bachgen sy'n cael ei eni i'r Hebreaid i gael ei daflu i'r Afon Nil, ond cewch adael i'r merched fyw.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 1