Ar y dyddiadau yna y cawson nhw lonydd gan eu gelynion – pan drodd eu trafferthion yn llawenydd a'u galar yn ddathlu. Roedden nhw i fod yn ddyddiau o bartïo a chael hwyl, rhoi anrhegion o fwyd i'w gilydd, a rhannu gyda phobl dlawd oedd mewn angen.