Hen Destament

Testament Newydd

Esther 6:7-13 beibl.net 2015 (BNET)

7. felly dyma fe'n dweud, “Os ydy'r brenin am anrhydeddu rhywun,

8. dylai ei arwisgo gyda mantell frenhinol, a'i osod ar geffyl mae'r brenin ei hun wedi ei farchogaeth – un sy'n gwisgo arwyddlun y frenhiniaeth ar ei dalcen.

9. Dylai un o brif swyddogion y brenin gymryd y fantell a'r ceffyl ac arwisgo'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu, ei roi i farchogaeth ar y ceffyl, a'i arwain drwy sgwâr y ddinas. A dylid cyhoeddi o'i flaen, ‘Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!’”

10. Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Haman, “Iawn, dos ar frys. Cymer di'r fantell a'r ceffyl, a gwna hynny i Mordecai yr Iddew sy'n eistedd yn y llys brenhinol. Gwna bopeth yn union fel gwnest ti ddisgrifio.”

11. Felly dyma Haman yn cymryd y fantell a'r ceffyl ac yn arwisgo Mordecai. Wedyn dyma fe'n ei arwain ar y march drwy ganol y ddinas, yn cyhoeddi o'i flaen, “Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!”

12. Ar ôl hyn i gyd, aeth Mordecai yn ôl i'r llys brenhinol, a dyma Haman yn brysio adre yn hollol ddigalon yn cuddio'i ben mewn cywilydd.

13. Yna aeth i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth ei wraig a'i ffrindiau i gyd. A dyma'r cynghorwyr a'i wraig Seresh yn ymateb, “Mae ar ben arnat ti os mai Iddew ydy'r Mordecai yma wyt ti wedi dechrau syrthio o'i flaen, does gen ti ddim gobaith!”

Darllenwch bennod gyflawn Esther 6