Hen Destament

Testament Newydd

Esther 6:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Y noson honno roedd y brenin yn methu cysgu. Felly dyma fe'n galw am y sgrôl oedd â hanes digwyddiadau pwysig yr Ymerodraeth ynddi, a cafodd ei darllen iddo.

2. A dyma nhw'n dod at y cofnod fod Mordecai wedi rhoi gwybod am y cynllwyn i ladd y brenin Ahasferus, gan y ddau was oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, sef Bigthan a Teresh.

3. Dyma'r brenin yn gofyn, “Beth gafodd ei wneud i anrhydeddu Mordecai am beth wnaeth e?” A dyma gweision y brenin yn ateb, “Dim byd o gwbl.”

4. Y funud honno roedd Haman wedi cyrraedd y cyntedd tu allan i'r neuadd frenhinol, i awgrymu i'r brenin y dylai Mordecai gael ei grogi ar y crocbren oedd wedi ei adeiladu iddo. A dyma'r brenin yn gofyn, “Pwy sydd yn y cyntedd tu allan?”

5. “Haman sydd yna,” meddai'r gweision.A dyma'r brenin yn dweud, “Gadewch iddo ddod i mewn.”

6. Pan ddaeth Haman i mewn, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Beth ddylid ei wneud os ydy'r brenin wir eisiau anrhydeddu rhywun?” Roedd Haman yn meddwl mai fe oedd yr un oedd y brenin eisiau ei anrhydeddu,

7. felly dyma fe'n dweud, “Os ydy'r brenin am anrhydeddu rhywun,

8. dylai ei arwisgo gyda mantell frenhinol, a'i osod ar geffyl mae'r brenin ei hun wedi ei farchogaeth – un sy'n gwisgo arwyddlun y frenhiniaeth ar ei dalcen.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 6