Mordecai oedd y swyddog uchaf yn y deyrnas, ar ôl y brenin ei hun. Roedd yn arwr i'r Iddewon ac yn cael ei edmygu'n fawr gan ei bobl i gyd. Roedd yn gwneud ei orau glas dros ei bobl, ac yn ceisio gwneud yn siŵr y byddai'r cenedlaethau i ddod yn saff.