Hen Destament

Testament Newydd

Esther 1:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. i ddod â'r frenhines Fasti o'i flaen, yn gwisgo ei choron frenhinol. Roedd y brenin eisiau i'w westeion a'i swyddogion weld mor hardd oedd hi – roedd hi'n wraig hynod o ddeniadol.

12. Ond pan ddwedodd yr ystafellyddion wrthi beth oedd y brenin eisiau dyma'r frenhines yn gwrthod mynd. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân – roedd yn gynddeiriog!

13. Dyma fe'n galw ei gynghorwyr ato – dynion doeth oedd yn deall yr amserau. (Roedd yn arfer gan frenin ofyn am gyngor dynion oedd yn arbenigwyr yn y gyfraith.)

14. Y dynion agosaf ato oedd Carshena, Shethar, Admatha, Tarshish, Meres, Marsena, a Memwchan. Nhw oedd uchel-swyddogion Persia a Media, y dynion mwyaf dylanwadol yn y deyrnas, ac roedden nhw'n cyfarfod gyda'r brenin yn rheolaidd.

15. Dyma'r brenin yn gofyn iddyn nhw, “Beth ddylai ddigwydd i'r Frenhines Fasti? Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud pan mae brenhines yn gwrthod gwneud beth mae'r brenin yn ei orchymyn?”

16. Dyma Memwchan yn ymateb, “Nid dim ond y brenin sydd wedi ei sarhau gan y frenhines Fasti. Mae hi wedi pechu yn erbyn y swyddogion a'r bobl i gyd o'r taleithiau sy'n cael eu rheoli gan y brenin Ahasferus.

17. Bydd gwragedd ym mhob man yn clywed am y peth a gwneud yr un fath, a dangos dim parch at eu gwŷr. Byddan nhw'n dweud, ‘Os ydy'r frenhines Fasti ddim yn ufuddhau i'w gŵr hi, y brenin Ahasferus, pam ddylen ni?’

18. Cyn diwedd y dydd bydd gwragedd uchel-swyddogion Persia a Media yn clywed beth wnaeth y frenhines, ac yn gwneud yr un fath i'w gwŷr! Fydd yna ddim diwedd ar y sarhau a'r ffraeo!

19. Os ydy'r brenin yn cytuno, dylai anfon allan ddatganiad brenhinol am y peth, a'i ysgrifennu yn llyfrau cyfraith Persia a Media, fel bod dim modd ei newid. Ddylai Fasti ddim cael gweld y brenin Ahasferus byth eto, a dylai'r brenin roi ei theitl i rywun arall fyddai'n frenhines well na hi.

20. Dylai dyfarniad y brenin gael ei gyhoeddi drwy'r deyrnas fawr yma'n gyfan. Wedyn bydd gwragedd yn parchu eu gwŷr, beth bynnag ydy eu safle cymdeithasol nhw.”

21. Roedd y brenin a'r swyddogion eraill yn hoffi awgrym Memwchan, felly dyna wnaeth e.

22. Anfonodd lythyrau allan i'r taleithiau i gyd. Roedd pob llythyr wedi ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd yn dweud fod pob dyn i reoli ei deulu ei hun, ac y dylid siarad ei famiaith e yn y cartref.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 1