Hen Destament

Testament Newydd

Esther 1:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd hi'r cyfnod pan oedd Ahasferus yn frenin Persia (Dyma'r Ahasferus oedd yn teyrnasu ar gant dau ddeg saith o daleithiau o India i Affrica.)

2. Roedd yn teyrnasu o'r gaer ddinesig yn Shwshan.

3. Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma fe'n cynnal gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Roedd penaethiaid byddin Persia a Media yno, a llywodraethwyr y taleithiau, a phawb arall o bwys.

4. Roedd Ahasferus eisiau i bawb oedd yno wybod mor bwysig ac mor anhygoel gyfoethog oedd e, a'i weld yn ei holl ysblander brenhinol.Parodd y dathliadau am amser hir – chwe mis cyfan i fod yn fanwl gywir.

5. Yna ar ddiwedd y chwe mis dyma fe'n cynnal gwledd oedd yn para am wythnos. Roedd pawb oedd yn Shwshan ar y pryd yn cael mynd, o'r bobl fawr i'r bobl fwya cyffredin. Roedd y wledd yn cael ei chynnal yn yr iard yng ngerddi'r palas brenhinol.

6. Roedd pobman wedi ei addurno gyda llenni o liain main gwyn a phorffor. Roedd cylchoedd arian yn dal y llenni ar gordyn wedi ei wneud o liain main a gwlân porffor, ac roedden nhw'n hongian rhwng colofnau marmor. Ac roedd soffas o aur ac arian ar balmant hardd oedd â phatrymau trwyddo o feini ffelsbar, marmor, mam y perl, a cherrig lliwgar eraill.

7. Roedd pobl yn yfed diodydd o gwpanau aur, ac roedd digonedd o'r gwin brenhinol gorau i bawb, a'r brenin yn talu am y cwbl.

8. Gallai pobl yfed faint fynnen nhw. Roedd y brenin wedi dweud wrth y wetars i gyd am roi i bawb faint bynnag oedden nhw eisiau.

9. Ar yr un pryd roedd y Frenhines Fasti yn cynnal gwledd i'r gwragedd i gyd ym mhalas y Brenin Ahasferus.

10. Ar ddiwrnod ola'r wledd roedd y gwin wedi mynd i ben y brenin, a dyma fe'n gorchymyn ei saith ystafellydd (sef Mehwman, Bistha, Harbona, Bigtha, Abagtha, Sethar, a Carcas)

11. i ddod â'r frenhines Fasti o'i flaen, yn gwisgo ei choron frenhinol. Roedd y brenin eisiau i'w westeion a'i swyddogion weld mor hardd oedd hi – roedd hi'n wraig hynod o ddeniadol.

12. Ond pan ddwedodd yr ystafellyddion wrthi beth oedd y brenin eisiau dyma'r frenhines yn gwrthod mynd. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân – roedd yn gynddeiriog!

13. Dyma fe'n galw ei gynghorwyr ato – dynion doeth oedd yn deall yr amserau. (Roedd yn arfer gan frenin ofyn am gyngor dynion oedd yn arbenigwyr yn y gyfraith.)

14. Y dynion agosaf ato oedd Carshena, Shethar, Admatha, Tarshish, Meres, Marsena, a Memwchan. Nhw oedd uchel-swyddogion Persia a Media, y dynion mwyaf dylanwadol yn y deyrnas, ac roedden nhw'n cyfarfod gyda'r brenin yn rheolaidd.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 1