Hen Destament

Testament Newydd

Esra 8:2-3-23 beibl.net 2015 (BNET)

2-3. Gershom, o deulu Phineas;Daniel, o deulu Ithamar;Chattwsh fab Shechaneia, o deulu'r brenin Dafydd;Sechareia, o deulu Parosh (a 150 o ddynion oedd wedi eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd);

4. Eliehoenai fab Seracheia, o deulu Pachath-Moab (a 200 o ddynion);

5. Shechaneia fab Iachasiël, o deulu Sattw (a 300 o ddynion);

6. Efed fab Jonathan, o deulu Adin (a 50 o ddynion);

7. Ieshaia fab Athaleia, o deulu Elam (a 70 o ddynion);

8. Sebadeia fab Michael, o deulu Sheffateia (ac 80 o ddynion);

9. Obadeia fab Iechiel, o deulu Joab (a 218 o ddynion gydag e);

10. Shlomith fab Iosiffîa, o deulu Bani (a 160 o ddynion gydag e);

11. Sechareia fab Bebai, o deulu Bebai (a 28 o ddynion);

12. Iochanan fab Haccatan, o deulu Asgad (a 110 o ddynion);

13. a'r rhai ddaeth wedyn, o deulu Adonicam. Eu henwau nhw oedd Eliffelet, Jeiel a Shemaia (a 60 o ddynion);

14. Wthai a Saccwr, o deulu Bigfai (a 70 o ddynion).

15. Dyma fi'n eu casglu nhw at ei gilydd wrth y gamlas sy'n rhedeg i Ahafa. Buon ni'n gwersylla yno am dri diwrnod. Roedd pobl gyffredin ac offeiriaid yno gyda ni, ond dyma fi'n darganfod fod dim Lefiaid.

16. Felly dyma fi'n anfon am Elieser, Ariel, Shemaia, Elnathan, Iarîf, Elnathan, Nathan, Sechareia, a Meshwlam, oedd yn arweinwyr, ac am Ioiarîf ac Elnathan, oedd yn athrawon.

17. A dyma fi'n eu hanfon nhw at Ido, oedd yn bennaeth yn Casiffia. Dwedais wrthyn nhw am ofyn i Ido a'i berthnasau, oedd yn weision y deml, i anfon dynion aton ni fyddai'n gweithio yn nheml ein Duw.

18. Roedd Duw gyda ni, a dyma nhw'n anfon crefftwr aton ni o deulu Machli (mab Lefi ac ŵyr i Israel), sef Sherefeia. A daeth ei feibion a'i frodyr gydag e – 18 o ddynion i gyd.

19. Chashafeia hefyd, gyda Ieshaia, o deulu Merari, a'i frodyr a'i feibion e, sef 20 o ddynion.

20. A hefyd, rhai oedd yn weision y deml (y rhai roedd y brenin Dafydd a'i swyddogion wedi eu penodi i helpu'r Lefiaid) – 220 ohonyn nhw. A dyma enwau pob un ohonyn nhw yn cael eu rhestru.

21. Yna dyma fi'n galw ar bawb oedd yno, wrth Gamlas Ahafa, i ymprydio a plygu o flaen ein Duw, a gofyn iddo roi siwrnai saff i ni a'n plant a'n holl eiddo.

22. Doedd gen i mo'r wyneb i ofyn i'r brenin roi milwyr a marchogion i'n hamddiffyn ni ar y ffordd. Wedi'r cwbl, roedden ni wedi dweud wrth y brenin, “Mae Duw'n gofalu am bawb sy'n ei geisio, ond mae'n ddig iawn hefo pawb sy'n troi cefn arno.”

23. Felly buon ni'n ymprydio a gweddïo'n daer ar Dduw am hyn, a dyma fe'n ein hateb ni.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 8