Hen Destament

Testament Newydd

Esra 8:17-29 beibl.net 2015 (BNET)

17. A dyma fi'n eu hanfon nhw at Ido, oedd yn bennaeth yn Casiffia. Dwedais wrthyn nhw am ofyn i Ido a'i berthnasau, oedd yn weision y deml, i anfon dynion aton ni fyddai'n gweithio yn nheml ein Duw.

18. Roedd Duw gyda ni, a dyma nhw'n anfon crefftwr aton ni o deulu Machli (mab Lefi ac ŵyr i Israel), sef Sherefeia. A daeth ei feibion a'i frodyr gydag e – 18 o ddynion i gyd.

19. Chashafeia hefyd, gyda Ieshaia, o deulu Merari, a'i frodyr a'i feibion e, sef 20 o ddynion.

20. A hefyd, rhai oedd yn weision y deml (y rhai roedd y brenin Dafydd a'i swyddogion wedi eu penodi i helpu'r Lefiaid) – 220 ohonyn nhw. A dyma enwau pob un ohonyn nhw yn cael eu rhestru.

21. Yna dyma fi'n galw ar bawb oedd yno, wrth Gamlas Ahafa, i ymprydio a plygu o flaen ein Duw, a gofyn iddo roi siwrnai saff i ni a'n plant a'n holl eiddo.

22. Doedd gen i mo'r wyneb i ofyn i'r brenin roi milwyr a marchogion i'n hamddiffyn ni ar y ffordd. Wedi'r cwbl, roedden ni wedi dweud wrth y brenin, “Mae Duw'n gofalu am bawb sy'n ei geisio, ond mae'n ddig iawn hefo pawb sy'n troi cefn arno.”

23. Felly buon ni'n ymprydio a gweddïo'n daer ar Dduw am hyn, a dyma fe'n ein hateb ni.

24. Yna dyma fi'n dewis un deg dau o arweinwyr yr offeiriaid, a hefyd Sherefeia, Chashafeia a deg o'u perthnasau.

25. Dyma fi'n pwyso'r arian, yr aur a'r llestri oedd i fynd i deml ein Duw a rhoi'r cwbl yn eu gofal nhw (sef y pethau roedd y brenin, ei gynghorwyr a'i swyddogion, a phawb o bobl Israel oedd yn Babilon, wedi ei gyfrannu):

26. 22 tunnell o arianllestri arian oedd yn pwyso 3.4 tunnell3.4 tunnell o aur

27. 20 powlen aur yn pwyso 8.4 cilogramdau lestr rhyfeddol o gain wedi eu gwneud o bres wedi ei loywi, mor werthfawr ag aur.

28. Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD, yn union fel mae'r llestri yma wedi eu cysegru. Offrwm gwirfoddol i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ydy'r arian a'r aur yma.

29. Dw i eisiau i chi ofalu amdano nes byddwch chi'n pwyso'r cwbl o flaen arweinwyr yr offeiriaid, y Lefiaid, a penaethiaid teuluoedd Israel, yn stordai teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem.”

Darllenwch bennod gyflawn Esra 8