1. Dyma'r penaethiaid, a'r bobl oedd yn perthyn i'w rhestrau teuluol nhw, ddaeth yn ôl gyda mi o Babilon. Artaxerxes oedd brenin Persia ar y pryd.
2-3. Gershom, o deulu Phineas;Daniel, o deulu Ithamar;Chattwsh fab Shechaneia, o deulu'r brenin Dafydd;Sechareia, o deulu Parosh (a 150 o ddynion oedd wedi eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd);
4. Eliehoenai fab Seracheia, o deulu Pachath-Moab (a 200 o ddynion);
5. Shechaneia fab Iachasiël, o deulu Sattw (a 300 o ddynion);
6. Efed fab Jonathan, o deulu Adin (a 50 o ddynion);
7. Ieshaia fab Athaleia, o deulu Elam (a 70 o ddynion);
8. Sebadeia fab Michael, o deulu Sheffateia (ac 80 o ddynion);
9. Obadeia fab Iechiel, o deulu Joab (a 218 o ddynion gydag e);
10. Shlomith fab Iosiffîa, o deulu Bani (a 160 o ddynion gydag e);
11. Sechareia fab Bebai, o deulu Bebai (a 28 o ddynion);
12. Iochanan fab Haccatan, o deulu Asgad (a 110 o ddynion);
13. a'r rhai ddaeth wedyn, o deulu Adonicam. Eu henwau nhw oedd Eliffelet, Jeiel a Shemaia (a 60 o ddynion);