Hen Destament

Testament Newydd

Esra 7:7-24 beibl.net 2015 (BNET)

7. Yn ystod seithfed flwyddyn teyrnasiad y Brenin Artaxerxes, dyma Esra yn arwain rhai o bobl Israel yn ôl i Jerwsalem (gan gynnwys rhai o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau, a gweision y deml).

8. Cyrhaeddodd Jerwsalem yn y pumed mis o'r flwyddyn honno.

9. Roedd wedi trefnu i ddechrau'r daith ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, ac wedi cyrraedd Jerwsalem ar ddiwrnod cynta'r pumed mis. Roedd Duw gydag e.

10. Roedd Esra yn ddyn oedd wedi rhoi ei fywyd i astudio cyfraith yr ARGLWYDD, i'w chadw, ac i ddysgu beth oedd ei gofynion i bobl Israel.

11. Dyma gopi o'r llythyr roddodd y Brenin Artaxerxes i Esra yr offeiriad oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith (sef gorchmynion yr ARGLWYDD a'i ganllawiau i Israel):

12. “Artaxerxes, sy'n frenin ar frenhinoedd,At Esra yr offeiriad a'r arbenigwr yn y Gyfraith mae Duw y nefoedd wedi ei rhoi.Cyfarchion!

13. Rwyf wedi rhoi gorchymyn yn dweud fod unrhyw un o bobl Israel sy'n byw yn y deyrnas, ac eisiau mynd gyda ti i Jerwsalem i gael gwneud hynny – hyd yn oed offeiriaid a Lefiaid.

14. Mae'r brenin, a'i saith cynghorwr, yn dy awdurdodi di i gynnal ymchwiliad i weld os ydy cyfraith dy Dduw yn cael ei chadw.

15. Rwyt hefyd i fynd ag arian ac aur gyda ti. Mae'r brenin a'i gynghorwyr am roi offrwm gwirfoddol i Dduw Israel sy'n byw yn Jerwsalem.

16. Hefyd cei fynd a'r holl arian a'r aur fyddi wedi llwyddo i'w gasglu gan dy bobl dy hun a'r offeiriaid sy'n byw yma yn nhalaith Babilon, ac sydd eisiau cyfrannu at deml eu Duw yn Jerwsalem.

17. Mae'r arian yma i'w ddefnyddio i brynu teirw, hyrddod, ŵyn, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Dos â nhw at allor teml dy Dduw yn Jerwsalem.

18. Wedyn gelli ddefnyddio unrhyw arian ac aur sy'n weddill i wneud beth bynnag wyt ti a dy gyd-offeiriaid yn ei feddwl sydd orau – beth bynnag wyt ti'n feddwl mae dy Dduw eisiau.

19. Dos â'r llestri sydd wedi eu rhoi i ti ar gyfer gwasanaeth y deml, a'u rhoi nhw i dy Dduw yn Jerwsalem.

20. Ac os oes rhywbeth arall sydd ei angen ar gyfer y deml, gelli gymryd yr arian i dalu amdano o'r trysordy brenhinol.

21. Dw i, y Brenin Artaxerxes, yn gorchymyn penaethiaid trysordai Traws-Ewffrates i roi i Esra'r offeiriad (yr arbenigwr yng Nghyfraith Duw'r nefoedd) beth bynnag mae'n gofyn amdano.

22. Gallwch roi iddo hyd at dair tunnell a hanner o arian, 10 tunnell o wenith, 2,000 litr o win, 2,000 litr o olew olewydd, a faint bynnag o halen mae'n gofyn amdano.

23. Dylid rhoi i'r deml, beth bynnag mae Duw'r nefoedd eisiau. Dw i ddim eisiau iddo ddigio gydag Ymerodraeth y brenin a'i feibion.

24. Hefyd, dw i eisiau i chi ddeall fod gynnoch chi ddim awdurdod i godi trethi na thollau o unrhyw fath ar yr offeiriaid, y Lefiaid, y cerddorion, y porthorion, gweision y deml nac unrhyw un arall sy'n gofalu am deml y Duw yma.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 7