Hen Destament

Testament Newydd

Esra 7:17-28 beibl.net 2015 (BNET)

17. Mae'r arian yma i'w ddefnyddio i brynu teirw, hyrddod, ŵyn, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Dos â nhw at allor teml dy Dduw yn Jerwsalem.

18. Wedyn gelli ddefnyddio unrhyw arian ac aur sy'n weddill i wneud beth bynnag wyt ti a dy gyd-offeiriaid yn ei feddwl sydd orau – beth bynnag wyt ti'n feddwl mae dy Dduw eisiau.

19. Dos â'r llestri sydd wedi eu rhoi i ti ar gyfer gwasanaeth y deml, a'u rhoi nhw i dy Dduw yn Jerwsalem.

20. Ac os oes rhywbeth arall sydd ei angen ar gyfer y deml, gelli gymryd yr arian i dalu amdano o'r trysordy brenhinol.

21. Dw i, y Brenin Artaxerxes, yn gorchymyn penaethiaid trysordai Traws-Ewffrates i roi i Esra'r offeiriad (yr arbenigwr yng Nghyfraith Duw'r nefoedd) beth bynnag mae'n gofyn amdano.

22. Gallwch roi iddo hyd at dair tunnell a hanner o arian, 10 tunnell o wenith, 2,000 litr o win, 2,000 litr o olew olewydd, a faint bynnag o halen mae'n gofyn amdano.

23. Dylid rhoi i'r deml, beth bynnag mae Duw'r nefoedd eisiau. Dw i ddim eisiau iddo ddigio gydag Ymerodraeth y brenin a'i feibion.

24. Hefyd, dw i eisiau i chi ddeall fod gynnoch chi ddim awdurdod i godi trethi na thollau o unrhyw fath ar yr offeiriaid, y Lefiaid, y cerddorion, y porthorion, gweision y deml nac unrhyw un arall sy'n gofalu am deml y Duw yma.

25. Yna ti, Esra. Defnyddia'r ddoethineb mae dy Dduw wedi ei rhoi i ti i ddewis barnwyr a swyddogion llys. Wedyn byddan nhw'n gallu delio gydag achosion y bobl hynny yn rhanbarth Traws-Ewffrates sy'n gyfarwydd â chyfraith dy Dduw; a dylid hyfforddi'r rhai hynny sydd ddim yn gwybod y Gyfraith.

26. Bydd unrhyw un sy'n torri cyfraith dy Dduw a chyfreithiau'r brenin yn cael eu cosbi gyda'r ddedfryd briodol – cael eu dienyddio, cael eu halltudio, colli eu heiddo neu gael eu carcharu.”

27. Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, sydd wedi gwneud i'r brenin fod eisiau cefnogi'r deml yn Jerwsalem!

28. Mae wedi peri i'r brenin, ei gynghorwyr, a'i swyddogion pwysig eraill, fod mor garedig tuag ata i. Roeddwn i'n teimlo'n fwy a mwy hyderus wrth weld fod llaw yr ARGLWYDD arna i. A dyma fi'n casglu nifer o arweinwyr pobl Israel i fynd i Jerwsalem gyda mi.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 7