Hen Destament

Testament Newydd

Esra 7:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Flynyddoedd wedyn, pan oedd Artaxerxes yn frenin Persia, dyma Esra yn symud i Jerwsalem o Babilon. (Esra oedd mab Seraia ac ŵyr Asareia fab Chilceia,

2. ac roedd ei deulu yn ymestyn yn ôl drwy Shalwm, Sadoc, Achitwf,

3. Amareia, Asareia, Meraioth,

4. Seracheia, Wssi, Bwcci,

5. Afishŵa, Phineas ac Eleasar, i Aaron y prif-offeiriad.)

6. Hwn oedd yr Esra ddaeth yn ôl o Babilon. Roedd yn arbenigwr yn y Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, i Moses. Roedd y brenin Artaxerxes wedi rhoi iddo bopeth roedd wedi gofyn amdano, am fod llaw yr ARGLWYDD ei Dduw arno.

7. Yn ystod seithfed flwyddyn teyrnasiad y Brenin Artaxerxes, dyma Esra yn arwain rhai o bobl Israel yn ôl i Jerwsalem (gan gynnwys rhai o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau, a gweision y deml).

8. Cyrhaeddodd Jerwsalem yn y pumed mis o'r flwyddyn honno.

9. Roedd wedi trefnu i ddechrau'r daith ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, ac wedi cyrraedd Jerwsalem ar ddiwrnod cynta'r pumed mis. Roedd Duw gydag e.

10. Roedd Esra yn ddyn oedd wedi rhoi ei fywyd i astudio cyfraith yr ARGLWYDD, i'w chadw, ac i ddysgu beth oedd ei gofynion i bobl Israel.

11. Dyma gopi o'r llythyr roddodd y Brenin Artaxerxes i Esra yr offeiriad oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith (sef gorchmynion yr ARGLWYDD a'i ganllawiau i Israel):

12. “Artaxerxes, sy'n frenin ar frenhinoedd,At Esra yr offeiriad a'r arbenigwr yn y Gyfraith mae Duw y nefoedd wedi ei rhoi.Cyfarchion!

13. Rwyf wedi rhoi gorchymyn yn dweud fod unrhyw un o bobl Israel sy'n byw yn y deyrnas, ac eisiau mynd gyda ti i Jerwsalem i gael gwneud hynny – hyd yn oed offeiriaid a Lefiaid.

14. Mae'r brenin, a'i saith cynghorwr, yn dy awdurdodi di i gynnal ymchwiliad i weld os ydy cyfraith dy Dduw yn cael ei chadw.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 7