Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esra 6 beibl.net 2015 (BNET)

Dareius yn dod o hyd i orchymyn Cyrus a cadarnhau fod yr ailadeiladu i fynd yn ei flaen

1. Dyma'r brenin Dareius yn gorchymyn chwilio drwy'r archifau brenhinol oedd yn cael eu cadw yn Babilon.

2. Cafwyd hyd i sgrôl yn y gaer ddinesig yn Echbetana, talaith Media. A dyma oedd wedi ei ysgrifennu arni:“Memorandwm:

3. Yn ystod blwyddyn gyntaf Cyrus yn frenin, dyma fe'n rhoi gorchymyn am deml Dduw yn Jerwsalem: ‘Mae'r deml i gael ei hailadeiladu fel lle i gyflwyno aberthau. Dylai'r sylfaeni gael eu gosod, ac yna dylid ei hadeiladu yn 27 metr o uchder a 27 metr o led,

4. gyda tair rhes o gerrig anferth, ac un rhes o goed. Bydd y trysorlys brenhinol yn talu am y gwaith.

5. Yna hefyd, mae'r llestri aur ac arian wnaeth Nebwchadnesar eu cymryd i Babilon i gael eu rhoi yn ôl. Maen nhw i gael eu gosod ble maen nhw i fod, sef yn y deml yn Jerwsalem.’”

6. Felly dyma Dareius yn ateb Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a swyddogion y dalaith:“Rhaid i chi gadw o'r ffordd,

7. a gadael i'r gwaith ar deml Dduw fynd yn ei flaen. Gadewch i lywodraethwr ac arweinwyr Jwda fwrw ymlaen gyda'r gwaith o ailadeiladu teml Dduw lle mae hi i fod.

8. Dw i hefyd yn gorchymyn eich bod chi i helpu arweinwyr yr Iddewon fel bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn ddi-rwystr. Mae'r costau i gyd i'w talu allan o drethi talaith Traws-Ewffrates, sy'n cael eu cadw yn y trysorlys brenhinol.

9. Dylid gwneud yn siŵr bob dydd eu bod nhw'n cael popeth sydd ei angen – teirw, hyrddod, ac ŵyn yn offrymau i'w llosgi i Dduw y nefoedd, gwenith, halen, gwin ac olew olewydd – beth bynnag mae'r offeiriaid yn Jerwsalem yn gofyn amdano.

10. Wedyn byddan nhw'n gallu offrymu arogldarth i Dduw y nefoedd, a gweddïo dros y brenin a'i feibion.

11. A dw i'n rhybuddio y bydd unrhyw un sy'n newid y gorchymyn yma yn marw – bydd trawst pren yn cael ei gymryd o'i dŷ a bydd y person hwnnw yn cael ei rwymo i'r trawst a'i drywanu'n farw. Wedyn bydd ei dŷ yn cael ei chwalu am ei fod wedi gwneud y fath beth.

12. Boed i'r Duw sy'n byw yn Jerwsalem ddinistrio unrhyw frenin neu wlad sy'n ceisio newid hyn er mwyn chwalu'r deml yno. Dw i, Dareius, wedi rhoi'r gorchymyn, a dw i'n disgwyl i'r cwbl gael ei gadw i'r llythyren!”

Y Deml yn Cael ei Chysegru

13. Dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a'i cydweithwyr yn gwneud yn union beth roedd y brenin Dareius wedi ei orchymyn.

14. Roedd arweinwyr yr Iddewon yn dal ati i adeiladu, ac yn llwyddiannus iawn, tra roedd Haggai a Sechareia fab Ido yn dal ati i broffwydo. A dyma nhw'n gorffen y gwaith adeiladu roedd Duw Israel wedi ei orchymyn, a hefyd Cyrus, Dareius ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia.

15. Dyma nhw'n gorffen adeiladu'r deml ar y trydydd o fis Adar, yn chweched flwyddyn teyrnasiad y brenin Dareius.

16. Trefnodd pobl Israel ddathliad i gysegru'r deml. Roedd pawb yno – yr offeiriaid, y Lefiaid, a pawb arall ddaeth yn ôl o'r gaethglud.

17. Cafodd cant o deirw eu hoffrymu, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, ac un deg dau bwch gafr dros bechodau pobl Israel (un ar ran pob llwyth).

18. Yna, fel mae sgrôl Moses yn dweud, dyma nhw'n rhannu'r offeiriaid a'r Lefiaid yn grwpiau, i fod yn gyfrifol am addoliad Duw yn Jerwsalem.

Dathlu Gŵyl y Pasg

19. Dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn dathlu'r Pasg ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.

20. Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain ac wedi eu cysegru. Felly dyma nhw'n lladd ŵyn y Pasg ar ran y bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud, ac ar ran yr offeiriaid eraill a nhw eu hunain.

21. Cafodd aberthau'r Pasg eu bwyta gan bobl Israel a phawb arall oedd wedi ymuno gyda nhw a troi cefn ar arferion paganaidd pobloedd eraill y wlad er mwyn dilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel.

22. A dyma nhw'n dathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod. Roedden nhw mor hapus am fod yr ARGLWYDD wedi newid agwedd brenin Asyria tuag atyn nhw, a gwneud iddo eu helpu nhw gyda'r gwaith o adeiladu teml Dduw, Duw Israel.