6. Dyma gopi o'r llythyr wnaeth Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai a swyddogion yn y dalaith, ei anfon at y brenin Dareius.
7. Roedd yn darllen fel yma:At y Brenin Dareius: Cyfarchion!
8. Dylai'r brenin wybod ein bod ni wedi mynd i dalaith Jwda. Yno mae teml y Duw mawr yn cael ei hadeiladu gyda cherrig anferth, ac mae trawstiau pren yn cael eu gosod yn y waliau. Maen nhw wrthi'n brysur yn gwneud y gwaith, ac mae'n mynd yn ei flaen yn dda.
9. Dyma ni'n gofyn i'r arweinwyr, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?”
10. A dyma ni'n gofyn beth oedd eu henwau nhw, er mwyn rhoi gwybod i chi mewn ysgrifen pwy ydy'r arweinwyr.
11. A dyma'r ateb gawson ni, “Gweision Duw y nefoedd a'r ddaear ydyn ni. Dŷn ni'n ailadeiladu'r deml yma gafodd ei chodi ganrifoedd yn ôl gan un o frenhinoedd mwyaf Israel.
12. Ond ar ôl i'n hynafiaid ni ddigio Duw y nefoedd, dyma fe'n gadael i Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu concro nhw. Dinistriodd y deml a chymryd y bobl yn gaethion i Babilon.
13. Ond yna, yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel brenin, dyma Cyrus brenin Babilon yn gorchymyn fod teml Dduw i gael ei hadeiladu eto.
14. Dyma fe hyd yn oed yn rhoi llestri aur ac arian y deml yn ôl (y rhai oedd Nebwchadnesar wedi eu cymryd o Jerwsalem i'w balas yn Babilon). Rhoddodd Cyrus nhw i ddyn o'r enw Sheshbatsar, oedd wedi ei benodi yn llywodraethwr ar Jwda,
15. a dweud wrtho, ‘Dos â'r llestri yma yn ôl i'w gosod yn y deml yn Jerwsalem. Mae teml Dduw i gael ei hadeiladu eto ar y safle cywir.’
16. Felly dyma Sheshbatsar yn mynd ati i osod sylfaeni teml Dduw yn Jerwsalem, ac mae'r gwaith adeiladu yn dal i fynd yn ei flaen, ac yn dal heb ei orffen.
17. Felly os ydy'r brenin yn hapus i wneud hynny, gallai orchymyn chwilio drwy'r archifau brenhinol yn Babilon, i weld os gwnaeth y brenin Cyrus orchymyn ailadeiladu'r deml yn Jerwsalem ai peidio. Wedyn falle y gallai'r brenin anfon i ddweud wrthon ni beth mae e eisiau i ni ei wneud.”