Hen Destament

Testament Newydd

Esra 5:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma'r proffwydi Haggai a Sechareia fab Ido yn proffwydo am yr Iddewon oedd yn Jwda a Jerwsalem. Roedden nhw'n siarad gydag awdurdod Duw Israel.

2. A dyma Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac yn dechrau eto ar y gwaith o ailadeiladu teml Dduw yn Jerwsalem. Roedd proffwydi Duw yn eu hannog nhw a'u helpu nhw.

3. Ond wedyn dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates) a Shethar-bosnai a'i cydweithwyr yn mynd atyn nhw, a gofyn, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?”

4. A dyma nhw'n gofyn hefyd, “Beth ydy enwau'r dynion sy'n gwneud yr adeiladu?”

5. Ond roedd Duw yn gofalu amdanyn nhw, a doedd dim rhaid iddyn nhw stopio nes oedd adroddiad wedi ei anfon at Dareius, a llythyr am y peth wedi ei anfon yn ôl.

6. Dyma gopi o'r llythyr wnaeth Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai a swyddogion yn y dalaith, ei anfon at y brenin Dareius.

7. Roedd yn darllen fel yma:At y Brenin Dareius: Cyfarchion!

Darllenwch bennod gyflawn Esra 5