Hen Destament

Testament Newydd

Esra 4:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan ddeallodd gelynion pobl Jwda a Benjamin fod y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi dechrau ailadeiladu teml i'r ARGLWYDD, Duw Israel,

2. dyma nhw'n mynd at Serwbabel a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Gadewch i ni'ch helpu chi. Dŷn ni wedi bod yn addoli eich Duw chi ac yn aberthu iddo ers i Esar-chadon, brenin Asyria, ein symud ni yma.”

3. Ond dyma Serwbabel, Ieshŵa ac arweinwyr eraill Israel yn ateb, “Na, gewch chi ddim helpu i adeiladu teml i'n Duw ni. Ni sy'n mynd i'w hadeiladu ein hunain, i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Mae Cyrus, brenin Persia, wedi gorchymyn i ni wneud hynny.”

4. Yna dyma'r bobl leol yn dechrau creu trafferthion i bobl Jwda a gwneud iddyn nhw ddechrau colli plwc.

5. Roedden nhw'n breibio swyddogion y llywodraeth i achosi problemau a rhwystro'r gwaith rhag mynd yn ei flaen. Roedd hyn yn digwydd yr holl flynyddoedd y bu Cyrus yn frenin Persia, hyd gyfnod y brenin Dareius.

6. Pan ddaeth Ahasferus yn frenin dyma nhw'n dod â cyhuddiad arall yn erbyn pobl Jwda a Jerwsalem.

7. A wedyn pan oedd Artaxerxes yn frenin ar Persia, dyma Bishlam, Mithredath, Tafél a'u cydweithwyr, yn ysgrifennu ato fe. Roedd y llythyr wedi ei ysgrifennu yn Aramaeg, ac yna ei gyfieithu.

8. Dyma oedd y llythyr am Jerwsalem yn ei ddweud – wedi ei anfon at y Brenin Artaxerxes gan Rechwm yr uwch-swyddog a Shimshai yr ysgrifennydd:

Darllenwch bennod gyflawn Esra 4