Hen Destament

Testament Newydd

Esra 3:9-12 beibl.net 2015 (BNET)

9. Dyma Ieshŵa yn penodi ei feibion a'i berthnasau ei hun, Cadmiel a Binnŵi (sef meibion Hodafia), i fod yn gyfrifol am y gweithwyr. Hefyd meibion Chenadad, a'u meibion nhw, a'u perthnasau o lwyth Lefi.

10. Pan gafodd sylfaeni teml yr ARGLWYDD eu gosod, dyma'r offeiriaid yn eu gwisgoedd seremonïol yn canu utgyrn, a'r Lefiaid (sef meibion Asaff) yn taro symbalau, i foli'r ARGLWYDD. Roedden nhw'n dilyn y drefn roedd Dafydd, brenin Israel, wedi ei gosod.

11. Roedden nhw'n canu mewn antiffoni, wrth foli ac addoli'r ARGLWYDD:“Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni i Israel yn ddiddiwedd!”A dyma'r dyrfa i gyd yn gweiddi'n uchel a moli'r ARGLWYDD am fod sylfaeni'r deml wedi eu gosod.

12. Ond yng nghanol yr holl weiddi a'r dathlu, roedd llawer o'r offeiriaid, Lefiaid a'r arweinwyr hŷn yn beichio crïo. Roedden nhw'n cofio'r deml fel roedd hi, pan oedd hi'n dal i sefyll.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 3